Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Cymorth Cynnar

Mae'r Gwasanaethau Cymorth Cynnar yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn rhoi gwybodaeth a chymorth i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ynghylch amrywiaeth o bynciau a allai effeithio ar deuluoedd. Mae hyn yn cynnwys perthnasoedd teuluol, gofal plant, rhianta, cyflogaeth, arian a thai.

Gweithredir eich gwasanaeth iechyd cynnar lleol gan eich cyngor lleol, y cydweithiwn yn agos ag ef. Os ydych yn byw yng Nghaerdydd, eich gwasanaeth cymorth cynnar yw Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd, ac os ydych yn byw ym Mro Morgannwg eich gwasanaeth cymorth cynnar yw Llinell Gymorth Teuluoedd yn Gyntaf.

Ble bynnag rydych yn byw, bydd y gwasanaeth cymorth cynnar yn gwrando arnoch ac yn asesu anghenion eich teulu. Bydd naill ai'n eich cefnogi chi a'ch teulu'n uniongyrchol neu'n eich cyfeirio at wasanaeth a all eich helpu gydag unrhyw heriau penodol.

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd

Rhif ffôn: 03000 133 133

Ar agor: Dydd Llun – Dydd Iau (8:30am – 5pm), Dydd Gwener (8:30am – 4:30pm)

Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf y Fro

Rhif ffôn: 0800 0327322

Ar agor: Dydd Llun - Dydd Gwener (9am – 4:30pm)

(Diweddarwyd Ionawr 2024)


Dychwelyd i'r Gwasanaethau Atal / Ymyrryd Cynnar

Dilynwch ni