Rydym yn dîm o feddygon a nyrsys wedi'n hyfforddi i asesu a rheoli plant sydd:
Gweithiwn o Ysbyty Dewi Sant ar Cowbridge Road East (Treganna, Caerdydd, CF11 9XB).
Bydd eich apwyntiad cyntaf mewn canolfan iechyd neu glinig lleol:
Bydd y rhan fwyaf o apwyntiadau dilynol mewn clinig teleffon. Bydd y nyrs yn dweud wrthych pryd i ddisgwyl galwad.
Bydd rhai apwyntiadau dilynol mewn clinig lleol. Yna gallwn siarad â chi a'ch plentyn.
Ni fyddwch yn cael apwyntiad gyda meddyg heblaw:
Anelwn at helpu cynifer o blant ag sy'n bosibl i fod yn gwbl lân a sych. Efallai na fydd hyn yn bosibl i bob plentyn.
Os byddwch yn canslo dau apwyntiad yn olynol, byddwn yn rhyddhau'r plentyn o'r gwasanaeth hwn.
Os na fyddwch yn dod â'r plentyn i apwyntiad clinig a chithau heb ganslo, byddwn yn rhyddhau'r plentyn o'r gwasanaeth.
Ar ôl rhyddhau o'r gwasanaeth, bydd gofyn atgyfeiriad newydd os bydd angen cymorth ychwanegol.
Rydym yn hoffi cael adborth am y gwasanaeth a gynigiwn.
Gallwch wneud awgrymiadau neu sylwadau drwy
Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol sydd â phryderon am ymataliaeth plentyn. Sylwch fod llwybrau atgyfeirio yn cael eu harchwilio ac y bydd hyn yn newid yn y dyfodol.
ERIC - yr Elusen Coluddyn a Phledren Plant
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol addysg a'r blynyddoedd cynnar am blant a phobl ifanc ag anhwylder y coluddyn neu'r bledren.
Teleffon: 0845 3709009
Gwefan: www.eric.org.uk
Bladder and Bowel UK
Cyngor a gwybodaeth am holl faterion y bledren a'r coluddyn ymhlith plant a phobl ifanc gan gynnwys y rheini ag anghenion ychwanegol.
Gwefan: www.bbuk.org.uk/children-young-people/
Teleffon: 0161 6078219
Canllawiau NICE
Rheoli Gwlychu'r Gwely ymhlith plant a phobl ifanc
https://www.nice.org.uk/guidance/cg111
Rhwymedd ymhlith plant a phobl ifanc: diagnosis a rheoli
https://www.nice.org.uk/guidance/cg99
Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd