Mae'r Llawr Seren yn gartref i'r Uned Gofal Critigol Plant, Seicoleg Cleifion Allanol a'r Ystafell Addysgu. |
Mae gan yr Uned Gofal Critigol Plant 15 o leoedd gwely. Mae hyn yn cynnwys dwy gilfach â gwely dwbl ar gyfer plant sydd naill ai angen ynysu, neu sy'n gleifion mewnol am nifer o fisoedd oherwydd cymhlethdod eu cyflwr.
Mae gan un o'r baeau 2-wely systemau aer pwysau negyddol a chadarnhaol i alluogi ynysu plant risg uchel.
Mae gan bob ardal wely systemau tlws crog pwrpasol gyda chyflenwadau integredig oddi mewn. Mae gan un ardal wely fecanwaith teclyn codi ar y pen gofal critigol gyda phedwar yn y pen dibyniaeth uchel i alluogi symud y plentyn sy'n adsefydlu ac i'w alluogi i symud wrth wella ac i ddefnyddio'r ystafell ymolchi heb lawer o drin â llaw.
Dyluniwyd yr Uned i alluogi arsylwi'n hawdd ar yr holl feysydd clinigol tra'n sicrhau nad yw plant dibyniaeth uchel yn cael golwg glir a di-rwystr o'r plant hynny sydd angen gofal critigol.
Mae'r Uned yn darparu gwasanaeth cludiant ledled De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru, gyda phlant o Ogledd Cymru yn mynd i Ysbyty Alder Hey. Bydd pob plentyn sydd angen gofal critigol (ac eithrio'r rhai sydd angen llawdriniaeth ar y galon, gofal llosgiadau neu ofal iau arbenigol) yn derbyn gofal yn yr Uned hon.
Mae'r llawr hwn yn cynnwys y Bont Seren i alluogi staff i gael mynediad i Gam Un, a'r Cyswllt Seren yn ôl i'r prif ysbyty i alluogi symud plant o brif theatrau, plant sy'n cael niwrolawdriniaeth neu lawdriniaeth frys y tu allan i oriau, a phlant sy'n dod o'r Uned Achosion Brys ac angen gofal critigol. Bydd y newydd-anedig hefyd yn cael eu symud ar draws y cyswllt hwn i lawr Theatr y Plant.
Gwybodaeth Bellach
Ewch i dudalennau Gofal Critigol Pediatreg a'r Gwasanaeth Seicoleg Bediatreg ar y wefan i gael mwy o wybodaeth.