Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Allanol

Yn ystod eich ymweliad â chleifion allanol plant bydd angen i chi archebu lle i ddefnyddio'r ciosgau electronig, felly dewch â'ch llythyr gyda chi. Yna bydd angen i chi aros yn yr ardal aros lle mae Caffi a man chwarae. Mae yna ardd hefyd y gellir ei defnyddio yn ystod misoedd yr haf.

Sylwch: Mae'r Caffi a'r ardd ar gau ar hyn o bryd

Efallai y bydd eich tîm yn cysylltu â chi i ymweld â chlinig rhithwir o'r enw Mynychwch yn Unrhyw Le. Y cyfan sydd ei angen yw dyfais symudol/ llechen/ cyfrifiadur gyda chamera gwe a chysylltiad sain. Rhaid bod gan y ddyfais a ddewiswch borwr gwe Google Chrome neu Safari. Bydd eich clinigwr yn anfon manylion atoch ar sut i ddefnyddio'r system hon (pe bai ymweliad eich plentyn yn addas ar gyfer apwyntiad rhithwir)

Byddwch yn aros gyda'ch plentyn yn yr "ystafell aros ar-lein" - bydd eich tîm meddygol yn gwybod eich bod chi yno. Os ydych chi'n cael unrhyw anhawster i gysylltu â'ch apwyntiad, ffoniwch 02920 743368 a bydd y tîm yn ceisio'ch helpu chi.

Efallai y bydd eich meddyg teulu yn atgyfeirio'ch plentyn am brawf gwaed, felly bydd rhaid i chi ffonio i archebu'r apwyntiad hwn cyn mynychu. Ffôn - 02920 743368

Mae dolenni clyw ym mhob desg dderbynfa yn yr adran cleifion allanol.

Bwydo ar y Fron a Newid Babanod

Mae ystafell bwydo ar y fron yn yr adran Cleifion Allanol ac ar y wardiau pe bai angen hyn. Mae hefyd gyfleusterau newid babanod.

Toiledau a Chyfleusterau Newid

Mae nifer o doiledau cyhoeddus ledled yr adran Cleifion Allanol ac mae cyfleuster newid yn yr adran Cleifion Allanol Seren Fôr ar gyfer plant hŷn/ pobl ifanc. Bydd angen i chi ofyn i staff eich cyfeirio i'r ardal hon.

Mae cyfleusterau newid oedolion ar gael yn yr adran Cleifion Allanol Oedolion.

Peiriant Arian Parod

Mae peiriant arian parod yn yr adran Cleifion Allanol Plant ac yn y prif gyntedd.

Gwasanaethau Cyfieithydd

Os ydych chi angen cyfieithydd, gofynnwch am hyn cyn eich apwyntiad Cleifion Allanol a gellir ei drefnu. Gallwch hefyd ofyn am gael cyfarfod â chyfieithydd os ydych chi'n cwrdd ag ymgynghorydd i drafod gofal meddygol eich plentyn.

 

 

 

 

Dilynwch ni