Neidio i'r prif gynnwy

Codi arian i Ysbyty Plant Cymru

chydig o achosion sydd wedi llwyddo i uno pobl Cymru yn y ffordd y gwnaeth Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

Fe'i ganed o angerdd, gwaith caled ac ymroddiad pobl o bob cwr o'r wlad a ymgyrchodd ac a gododd arian i'w droi yn ganolbwynt gwirioneddol gofal iechyd plant rhagorol i Gymru.

Am fwy na degawd, bu teuluoedd a chymunedau ledled Cymru yn brysur iawn yn ymgymryd â gweithgareddau uchelgeisiol i godi arian i'r ysbyty a chefnogi ei waith.

Mae Julie bellach yn helpu i godi arian ar gyfer grantiau i deuluoedd eraill i helpu gyda chostau teithio. Mae hi hefyd wedi darparu ystafell dawel i’w defnyddio gan deuluoedd a staff, a enwyd er cof am Leon.

Elusen Arch Noa

Codir miliynau o bunnoedd gan y llu o elusennau ymroddedig sy'n rhan bwysig o'i waith.

Mae'r haelioni a'r ymrwymiad hwnnw wedi gweld yr Ysbyty Plant yn cael ei adeiladu a'i gyfarparu, gan wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau ledled Cymru. Darparodd Llywodraeth Cymru £63.8 miliwn mewn cyllid ar gyfer cam dau.    
Codwyd miliynau o bunnoedd ers i Elusen Ysbyty Arch Noa i Blant lansio'r ymgyrch ar gyfer cam un.

Dywedodd Suzanne Mainwaring, Cyfarwyddwr yr elusen, fod yr elusen wedi codi cyfanswm o £20 miliwn i’r ysbyty a'i bod yn bwriadu parhau â’i hymdrechion pwysig.

Meddai: “Mae Elusen Ysbyty Arch Noa i Blant wedi gweld cefnogaeth barhaus o bob rhan o Gymru. O werthu cacennau i feicio o'r DU i'r Iseldiroedd, marathon redeg i nosweithiau Elvis yn eich tafarn leol; mae ein holl godwyr arian wedi bod yn rhan o’r daith i adeiladu Ysbyty Arch Noa i Blant.

“Mae’n fraint enfawr gweithio ochr yn ochr â phobl gyffredin a busnesau lleol sydd, trwy eu hymdrechion codi arian, yn ein helpu i gefnogi’r ysbyty.

“Mae bob amser fwy o ddarnau o offer i’w prynu ac offer i’w gynnal. Rydym yn annog pobl i barhau i'n cefnogi a dod yn rhan o'r etifeddiaeth anhygoel hon.”

Dim ond un o nifer o bartneriaid elusennol yw Arch Noa sy’n ymdrechu i gefnogi'r Ysbyty Plant. Fel canolfan sy'n cynnig amrywiaeth o ofal arbenigol iawn i blant, mae'r ysbyty'n elwa o gefnogaeth llawer o elusennau arbenigol sy'n chwarae rhan annatod ym mywyd yr ysbyty.

LATCH Welsh Children's Cancer Charity

Mae Elusen Canser Plant Cymru LATCH yn cefnogi'r plant hyn a'u teuluoedd o adeg y diagnosis hyd at ddiwedd y driniaeth ac mae ganddi swyddfeydd yn yr Ysbyty Plant.

Mae'r elusen yn darparu llety cartrefol i deuluoedd, lle gallant aros yn ystod yr wythnosau hir ac weithiau misoedd y mae'r plant yn eu treulio yn yr ysbyty.

Darperir grantiau i helpu gyda chostau teithio a chostau byw yn yr ysbyty hefyd, ynghyd â grantiau ar gyfer y nifer o wahanol fathau o wariant sy'n gysylltiedig â phlentyn sy'n derbyn triniaeth.

Mae gwaith yr Ysbyty Plant yn ysbrydoli cefnogaeth ac ewyllys da o bob rhan o Gymru. Codwyd symiau enfawr o arian gan Wooden Spoon, Dreams and Wishes, yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Plant Sâl, Clic Sargent, Aren Cymru, yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig, Elusennau Tŷ Ronald McDonald a Chronfa Calon Leon.

Mae Cronfa Calon Leon, a sefydlwyd gan ei fam Julie Montanari, yn un o enghreifftiau dirifedi o deuluoedd diolchgar sydd eisiau dangos eu gwerthfawrogiad i staff yr ysbyty am eu gofal a'u cefnogaeth.

Ganwyd ei mab Leon â chyflwr ar y galon, ac roedd angen trawsblaniad calon pan oedd ond yn 10 mis oed. Treuliodd Leon lawer o amser yn yr ysbyty cyn iddo farw yn 13 oed.

Enwyd er cof am Leon

Mae'r gronfa wedi codi £100,000 hyd yma ac wedi helpu dros gant o deuluoedd.

Meddai Julie: “Byddaf yn ddiolchgar am byth i’r holl staff am yr hyn a wnaethant i Leon, byddaf yn gwneud fy ngorau i’w helpu yn y dyfodol trwy helpu i ddarparu cyfleusterau i wneud eu swyddi yn haws.

“Fe wnaethant drin Leon yn arbennig o dda a gwneud popeth o fewn eu gallu. Doedden nhw ddim yn gwneud i ni deimlo ein bod ni yn yr ysbyty - fe wnaethon nhw bob peth yn gartrefol, sy'n bwysig iawn.

“Mae'r ysbyty yn bwysig iawn. Os yw'ch plentyn yn sâl - mae'n galonogol eich bod yn gallu mynd i'r ysbyty arbenigol mwyaf a gorau yng Nghymru. Mae'n anhygoel, does dim rhaid i chi adael y wlad i gael y gofal gorau. Mae ei wir angen.”

Cardiff House - Ronald McDonald House Charities

Mae Tŷ Ronald McDonald Caerdydd yn dŷ pwrpasol ychydig funudau o Ysbyty Plant Cymru Arch Noa gyda 30 ystafell wely ensuite i ddarparu llety am ddim i deuluoedd plant sy’n cael eu trin yn yr ysbyty.

Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro

Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Rydym yn rheoli dros 300 o gronfeydd at ddibenion cyfarpar, ymchwil, triniaeth a gofal cleifion, er mwyn i’ch rhoddion chi gefnogi gwaith a phrosiectau sydd yn ychwanegol at gyllid y GIG.

Os hoffech chi helpu i gefnogi gwaith yr Ysbyty Plant, cysylltwch ag un o'r nifer o elusennau gwych sy'n helpu i gefnogi ein gwaith. Cliciwch y delweddau isod i ymweld â'u gwefannau.

Dilynwch ni