Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Therapi Chwarae Plant

Ysbyty Plant Cymru - Gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau chwarae
Gweithio mewn partneriaeth ag Arch Noa

Ariennir tîm chwarae arbenigol yr ysbyty gan Elusen Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ac mae'n darparu gwasanaeth amhrisiadwy i blant a'u teuluoedd. Gan ddefnyddio amrywiaeth o offer therapiwtig, mae'r arbenigwyr chwarae yn gweithio'n agos gyda'r tîm amlddisgyblaethol i helpu plant i oresgyn unrhyw ofnau neu bryderon am eu triniaethau.

Mae chwarae yng nghanol bywyd plentyn iach ac yn hanfodol i dwf a datblygiad plant. Mae'n helpu plant i ddysgu, i uniaethu â phobl eraill ac, wrth gwrs, i gael hwyl. Pan dderbynnir plant neu bobl ifanc yn eu harddegau i'r ysbyty, maent ar eu mwyaf agored i niwed. Nid yn unig eu bod yn sâl, ond maent hefyd wedi'u gwahanu oddi wrth ffrindiau, teulu ac amgylchedd cyfarwydd, a gall chwarae wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w cynnydd a'u hadferiad.

Mae chwarae yn yr ysbyty:

  • yn lleihau trawma
  • yn helpu'r plentyn i ymdopi â thriniaethau poenus
  • yn grymuso ac yn helpu'r plentyn i adennill rheolaeth
  • yn helpu'r plentyn i weithio trwy atchweliad trwy ddarparu chwarae sy'n gyfarwydd yn hytrach na heriol
  • yn creu amgylchedd lle mae straen a phryder yn cael ei leihau
  • yn helpu'r plentyn i adennill hyder a hunan-barch
  • yn darparu pwynt i roi mynegiant i deimladau o ddicter a rhwystredigaeth
  • yn helpu'r plentyn i ddeall salwch a thriniaeth. Trwy chwarae, mae plant yn dysgu'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i baratoi ar gyfer triniaethau ysbyty
  • yn cynorthwyo asesu a diagnosis
  • yn cyflymu gwellhad ac yn cefnogi adferiad

Er mwyn llywio model newydd, cynhaliwyd adolygiad 3600 o Chwarae Therapiwtig gan ymgynghori â chleifion a’r teulu, staff chwarae arbenigol a chydweithwyr clinigol, a meincnodi gydag ysbytai plant arbenigol eraill. Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod gan Arbenigwyr Chwarae “rôl sylweddol i’w chwarae wrth leihau pryder cyn-lawdriniaethol, trwy ddarparu mecanweithiau ymdopi a thynnu sylw’n effeithiol” gan ganiatáu i driniaethau fynd yn eu blaenau ar yr ymgais gyntaf. Roedd cydweithwyr clinigol yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth uniongyrchol hon i gleifion, yn enwedig eu gwaith gyda Seicolegwyr Clinigol i oresgyn ffobiâu, a chyfleu gwybodaeth glinigol bwysig mewn ffordd sy'n gyfeillgar i blant.

Bydd y model clinigol arfaethedig yn blaenoriaethu cyswllt uniongyrchol â chleifion i gyflawni canlyniadau wedi'u targedu. I wneud hyn, bydd yr Uwch Arbenigwyr Chwarae yn gweithredu ar sail atgyfeirio, a bydd Cynorthwywyr Chwarae wedi'u lleoli yn yr ystafelloedd chwarae. 

Dilynwch ni