Neidio i'r prif gynnwy

Eich Ymweliad â Chanolfan y Fron

Yng nghanolfan y fron, mae pob person yn unigryw ac mae ymweliadau  wedi'u teilwra i'ch anghenion personol. Fydd dim angen yr un triniaethau ar bawb a bydd ymweliadau unigol â'r clinig yn amrywio o ran hyd. Efallai y bydd eich apwyntiad yn cymryd hyd at 3 awr.

Ar hyn o bryd rydym yn gwahodd menywod sydd dros 40 oed ac sydd heb gael mamogram yn ddiweddar, i gael mamogram cyn eu hapwyntiad clinig cleifion allanol.

Hyd yn oed os yw'r mamogram hwn yn normal, bydd dal angen i chi fynychu apwyntiad clinig cleifion allanol i weld llawfeddyg y fron. Mae hyn oherwydd nad yw 1 o bob 10 canser i'w weld ar famogram, ac yn yr achosion hyn, mae'r canserau'n cael eu canfod gan archwiliad y llawfeddyg.

Fel arfer, gellir gwneud unrhyw brofion eraill sydd eu hangen, fel sgan uwchsain a biopsïau, yn yr un apwyntiad clinig.

 

 

Dilynwch ni