Neidio i'r prif gynnwy

Arwyddion a Symptomau Annormaleddau'r Fron

woman in bra holding flowers

Mae'r rhan fwyaf o ganserau'r fron yn cael eu canfod gan bobl sy'n sylwi ar newidiadau anarferol yn eu bron neu gesail ac yn mynd i weld eu meddyg teulu.

 

Arwyddion a symptomau clinigol

 

Mae angen ymchwilio i'r symptomau canlynol er mwyn diystyrru neu gadarnhau canser y fron:

  • Lwmp caled gyda sefydlogiad – efallai y bydd chlymiad croen, crychau, lliw neu siâp y fron wedi newid.
  • Lwmp sydd wedi mynd yn fwy.
  • Lwmp newydd, ar wahân ar y fron.
  • Lwmp newydd mewn nodau sy'n bodoli eisoes.
  • Ardal ganolog barhaus o lympiau neu newid canolog yng ngwead y fron.
  • Newid cynyddol ym maint y fron gydag arwyddion o oedema.
  • Nodwlaraeth anghymesur yn parhau ar ôl cyfnod.
  • Ystumio croen.
  • Hanes blaenorol o ganser y fron gyda lwmp newydd neu symptomau amheus.
  • Rhedlif newydd unochrog o'r deth, rhedlif o waed neu wrthdroad newydd o'r deth.
  • Ecsema ar y tethi neu newid nad yw'n ymateb i driniaethau argroenol.
  • Lwmp dan y cesail
  • Gall wlseriad croen y fron ddangos canser y fron datblygedig lleol.

 

Dilynwch ni