Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Gofal y Fron

Oriau gwaith 9am - 5pm, Llun - Gwener

Annette Dyke

Nyrs Gofal y Fron

Helen McGarrigle

Nyrs Gofal y Fron

Julie Hopgood

Nyrs Gofal y Fron

Jess Chick

Nyrs Gofal y Fron

Natasha Scamp

Nyrs Gofal y Fron

 

Cefnogaeth i gleifion o'r diagnosis cychwynnol a gofal cyn ac ar ôl llawdriniaeth

Mae pob claf sy'n cael diagnosis o ganser y fron yn cael Nyrs Gofal y Fron (BCN) fel gweithiwr allweddol, o adeg y diagnosis. Mae BCN gyda'r claf i roi cefnogaeth pan roddir y diagnosis. Bryd hynny, rhoddir gwybodaeth lafar ac ysgrifenedig i gleifion am eu hopsiynau triniaeth. Mae pob claf yn cael apwyntiad pellach yn ystod yr wythnos ganlynol i drafod triniaeth yn fanylach a manteision ac anfanteision gwahanol opsiynau triniaeth, gan gynnwys technegau ailadeiladu fel sy'n briodol. Mae cyfraniad y BCN yn rhoi cymorth hanfodol i gleifion cyn ac ar ôl llawdriniaeth, a thrwy gydol y driniaeth a'u llwybr adfer.

 

Ymgynghoriadau dros y ffôn a mynediad agored i gleifion gysylltu gydag unrhyw gwestiynau 

Fel arfer, y BCN yw'r pwynt cyswllt cyntaf i gleifion os oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau a phryderon sy'n ymwneud â'r fron a'u triniaethau, a gall cleifion gysylltu â'r BCN hyd yn oed flynyddoedd ar ôl eu triniaeth.

 

Rheoli clwyfau

Bydd Nyrsys Gofal y Fron yn adolygu ac yn trin unrhyw faterion clwyfau parhaus y tu allan i amseroedd clinig, i gefnogi'r llawfeddygon ac i ddarparu gwasanaeth amserol i gleifion, gan gynnwys allsugnad seroma ac ehangu ehangwyr meinweoedd ar gyfer ailadeiladu'r fron.

 

Moving on appointments

Gwahoddir pob claf i fynychu apwyntiad 'symud ymlaen' gyda'i BCN. Mae hyn yn rhoi cyfle i asesu sut mae'r claf yn delio ag effeithiau'r diagnosis a'r driniaeth, gan gynnwys asesiad anghenion cyfannol unigol i adolygu sawl agwedd wahanol ar y llwybr gwella.

Mae hyn yn caniatáu cyfeirio at wasanaethau eraill fel cwnsela, ffisiotherapi, therapïau cyflenwol a chyngor ar ffordd o fyw. Rhoddir crynodeb o driniaeth a chynllun dilynol unigol i gleifion.

 

Trafodaeth ar gyfer ailadeiladu/llawdriniaeth oncoplastig a thatŵio areola teth

Mae'r BCN yn gweld pob claf sy'n ystyried ailadeiladu'r fron ar unwaith neu'n ddiweddarach neu sy'n ystyried lleihau'r fron er mwyn trafod beth gallai'r lawdriniaeth ei olygu.  Byddan nhw'n gallu gweld ffotograffau a derbyn gwybodaeth ysgrifenedig am y driniaeth ac am gymhlethdodau posibl.

Yn dilyn llawdriniaeth ailadeiladu, cynigir yr opsiwn i gleifion hefyd gael tatŵ areola teth. Mae hyn yn cael ei wneud yng Nghanolfan y Fron gan Helen McGarrigle a Grace Uruski.

 

Dilynwch ni