Neidio i'r prif gynnwy

Geneteg a Chanser y Fron

Gwasanaeth Geneteg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS)

Mae 'Gwasanaeth Geneteg Feddygol Cymru Gyfan 'AWMGS)' yn un o nifer o wasanaethau geneteg meddygol arbenigol rhanbarthol sydd wedi'u datblygu yn y DU. Mae ar gael ledled Cymru mewn ysbytai a chlinigau dynodedig.

Mae Geneteg Feddygol yn gangen o feddygaeth sy'n ymwneud â chyflyrau meddygol sy'n cael eu hachosi gan amrywiadau mewn genynnau neu gromosomau. Mae'r rhain weithiau'n rhedeg mewn teuluoedd. Yn ddiweddar, mae'r maes hwn wedi datblygu'n gyflym, ac mae ein dealltwriaeth ohono'n parhau i dyfu.

Mae'r AWMGS yn darparu gwasanaethau genetig arbenigol i unigolion a theuluoedd sydd â chyflyrau genetig prin, neu sy'n pryderu amdanynt. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys gwasanaethau clinigol a labordy sydd, gyda'i gilydd, yn darparu gwasanaethau geneteg feddygol i boblogaeth Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn rhoi cartref i AWMGS yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC), Caerdydd. Mae genetegwyr ymgynghorol arbenigol, meddygon a chynghorwyr genetig yn darparu gwasanaethau genetig ym mhob un o'r prif ysbytai ledled Cymru.

 

Gwasanaeth Geneteg Canser Cymru (CGSW)

Mae Gwasanaeth Geneteg Canser Cymru (CGSW) yn rhan o Wasanaeth Geneteg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS). Fe'i sefydlwyd gyda chyllid gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Macmillan Cancer Relief yn gynnar yn 1999 i ymateb i'r galw cynyddol am wybodaeth a gofal clinigol i fenywod a dynion sydd mewn perygl o gael canser oherwydd hanes teuluol. Ei gylch gwaith yw asesu'r risg o ganser yn seiliedig ar hanes teuluol claf a gweithio gyda'r arbenigwyr perthnasol i argymell strategaethau sgrinio pellach lle mae hynny'n briodol.

Mae 5 - 10% o ganserau'r fron, ofari a choluddyn yn deillio o ragdueddiad a etifeddwyd. Gellir cyfeirio unigolion sy'n bodloni'r meini prawf atgyfeirio ac a allai felly fod mewn perygl sylweddol uwch o ddatblygu canser at CGSW.

Ein cylch gwaith yw asesu'r risg o ganser yn seiliedig ar hanes y teulu, gweithio gyda'r clinigwyr arbenigol perthnasol ac argymell strategaethau sgrinio lle mae hynny'n briodol. Mae'r meini prawf atgyfeirio yn awgrymu pwy allai fod mewn perygl sylweddol uwch o gael math o ganser a etifeddwyd.

Ceir rhagor o wybodaeth gan gynnwys canllawiau atgyfeirio a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd mewn apwyntiad ar wefan Geneteg Canser Cymru.

 

Canllawiau Cyfeirio

Mae llawer o bobl yn pryderu y gallent fod wedi etifeddu genyn a allai gynyddu eu risg o ddatblygu canser y fron. Nid yw'r rhan fwyaf o ganserau'r fron yn rhai  genetig, ond mae rhai yn ganlyniad i enynnau a etifeddwyd, er enghraifft BRCA1, BRCA2 neu Syndrom Li Fraumeni.

Os ydych yn pryderu am hanes eich teulu yna gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at CGSW i gael asesiad o'ch risg.

Dilynwch ni