Neidio i'r prif gynnwy

Diagnosis o Glefyd y Fron

Mae defnyddio'r tri phrawf hyn yn golygu bod modd gwneud diagnosis cywir yn brydlon. I fenywod sydd â lwmp anarferol y gellir gwneud biopsi arno, ceir tystiolaeth dda bod asesiad triphlyg yn rhoi diagnosis mwy cywir na dim ond defnyddio un neu ddau brawf.

Fodd bynnag, dim ond archwiliad corfforol a delweddu fydd eu hangen ar rai cleifion. Dim ond os oes ardal annormal wedi'i chanfod drwy archwiliad corfforol neu ddelweddu y bydd  biopsi’n cael ei wneud.

Pan fydd y tri phrawf yn rhoi'r un canlyniad, mae bron bob amser yn bosibl rhoi diagnosis pendant, boed yn gadarnhaol (canser) neu'n negyddol (nid canser – cyflwr anfalaen neu ddim byd annormal), felly gellir trafod triniaeth briodol cyn gynted â phosibl.

Fel arfer, dylid cynnal y tri phrawf yn ystod yr un ymweliad ag uned y fron i'ch arbed rhag gwneud sawl taith i'r ysbyty ar gyfer y gwahanol brofion.

 

Archwiliad corfforol 

Archwiliad o'ch bronnau, eich ceseiliau, yr ardal o amgylch pont yr ysgwydd a'ch gwddf yw hwn sy’n cael ei wneud gan feddyg ysbyty neu nyrs arbenigol.

Archwilir eich bronnau i ddod o hyd i unrhyw annormaleddau, gan gynnwys lympiau neu arwyddion neu symptomau eraill canser y fron. Archwilir yr rhannau eraill i chwilio am nodau lymff wedi chwyddo, a all fod yn arwydd o ganser y fron.

Mae nodau lymff yn chwarennau a geir yn eich ceseiliau ac mewn rhannau eraill o'ch corff sy'n rhan o'ch system imiwnedd.

 

Delweddu'r fron

Mae hyn yn golygu delweddu'r tu mewn i'ch bronnau gan ddefnyddio mamogram (pelydr-x sy'n defnyddio dosau isel iawn o ymbelydredd) neu archwiliad uwchsain (sy'n defnyddio seindonnau). Efallai y bydd rhai pobl yn cael y ddau.

Bydd y dull gorau o ddelweddu i chi yn dibynnu ar eich oedran a'ch nodweddion ffisegol: Os ydych chi’n 40 oed neu'n hŷn, dylech gael mamograffeg dau olwg, sef mamograffeg sy’n defnyddio dwy ongl ar gyfer pob bron. Efallai y bydd angen golygon ychwanegol hefyd.

Efallai y byddwch hefyd yn cael archwiliad uwchsain os yw eich meddygon yn credu y bydd hyn yn darparu gwybodaeth ychwanegol ddefnyddiol. Weithiau (er enghraifft i rai cleifion sydd â mewnblaniadau o'r fron) gall ymchwiliad delweddu cyseiniant magnetig (MRI) fod o gymorth, er nad yw'r math hwn o ddelweddu yn arferol ar gyfer asesiad diagnostig.

Sgan yw MRI sy’n defnyddio tonnau radio a maes magnetig i greu delweddau o'r corff.  Os ydych chi o dan 40 oed (neu'n feichiog neu'n bwydo o’r fron), rydych yn debygol o gael archwiliad uwchsain yn hytrach na mamogram.

Y rheswm am hyn yw bod meinwe'r fron mewn menywod iau a'r rhai sy'n feichiog neu'n bwydo o’r fron yn aml yn ddwysach, gan wneud y mamogram yn fwy anodd ei ddehongli.

Felly, mae unrhyw annormaleddau fel arfer yn cael eu gweld yn well gan uwchsain na mamogram. Fodd bynnag, efallai y bydd angen y ddau fath o ddelweddu arnoch ac mae'n bosibl i fenywod iau, beichiog neu fenywod sy'n bwydo o’r fron gael mamogram.

Biopsi

Gellir defnyddio un o ddwy dechneg i gymryd sampl o gelloedd (biopsi) o'r lwmp neu'r ardal o annormaledd yn eich bron a/neu'ch cesail: biopsi craidd neu Sugniad Nodwydd Denau (FNA).  Bydd patholegydd yn archwilio'r sampl yn y labordy i benderfynu a yw'n cynnwys celloedd canser ai peidio.

Gellir defnyddio biopsi craidd neu FNA, er bod biopsi craidd bellach yn fwy cyffredin. Gellir perfformio'r naill dechneg neu'r llall mewn clinig cleifion allanol, a gallwch fynd adref wedyn. Dylech gael biopsi ar yr un diwrnod â'ch profion eraill. Mae'r ddau brawf yn defnyddio nodwydd ac mae'r canlyniadau fel arfer ar gael o fewn wythnos. Ar gyfer biopsi craidd, cymerir mwy nag un sampl fel arfer.

Rhoddir anesthetig lleol ymlaen llaw bob amser. Er na ddylai'r biopsi ei hun fod yn boenus, gall y pigiad anaesthetig lleol achosi anghysur am gyfnod byr. Gall rhywfaint o gleisio ddigwydd ar safle’r biopsi, ond mae'r clwyf yn rhy fach i fod angen pwythau a dylai wella'n gyflym.

Ar gyfer FNA, defnyddir nodwydd denau i gymryd sampl o gelloedd y lwmp ar y fron neu ardal annormal eich bron a/neu'ch cesail. Gall FNA fod yn boenus i rai menywod. Mae'r prawf yn tueddu i fod yn fwy poenus os oes rhaid gosod y nodwydd yn gymharol ddwfn yn eich bron neu pan fydd yn rhaid symud y nodwydd o gwmpas o fewn y fron.

Dilynwch ni