Neidio i'r prif gynnwy

Elusen Canolfan y Fron

Sefydlwyd Elusen Canolfan y Fron yn 2010 gyda'r nod o ddarparu gwasanaethau i gleifion y tu hwnt i'r hyn a ddarperir ar y GIG, ac i helpu i addysgu a hyfforddi meddygon a nyrsys. Mae'n un o'r elusennau mwyaf gweithgar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Cynhelir sawl digwyddiad yn rheolaidd i godi arian. Mae'r digwyddiadau wedi cynnwys: Carlam ar y traeth (marchogaeth), Zumbathon, gwerthu nwyddau yn lleol, casgliadau bwced, a digwyddiadau gyda Heddlu De Cymru a chlybiau golff lleol.

Y digwyddiadau mwyaf llwyddiannus fu Cinio Gala Tei Pinc a gynhaliwyd yn flynyddol am y chwe blynedd diwethaf, a chystadleuaeth Strictly Top Dancer a gynhaliwyd yn flynyddol am y pedair blynedd diwethaf.

Mae'r arian a godir yn cael ei wario ar gynyddu oriau nyrsio gofal y fron, darparu therapïau cyflenwol (fel adweitheg) a dillad isaf ar gyfer cleifion canser y fron ac offer theatr.

Talodd yr elusen hefyd i nyrsys gofal y fron fynychu cwrs tatŵio tethi, ac erbyn hyn mae tatŵio tethi'n cael ei wneud yng Nghanolfan y Fron gan nyrsys gofal y fron.  Mae hyn yn rhyddhau amser theatr ac mae'n fwy cyfleus i'r cleifion.

Adeiladwyd y ganolfan addysgu a hyfforddi yng Nghanolfan y Fron ar gost o bron i £200K.  Fe'i hariannwyd gan yr elusen. Yr her nesaf yw darparu presgripsiwn ymarfer corff i gleifion.

Bydd hyn yn cynnwys talu am gyfarpar ymarfer corff a fydd yn cael ei ddefnyddio yng Nghanolfan y Fron. Rydym yn cynnal trafodaethau gydag Adran Ffisiotherapi YPLl ac Elusen Tenovus i roi'r fenter hon ar waith.

Dilynwch Apêl Canser y Fron Caerdydd a'r Fro ar Facebook

Gweler ein hymdrechion codi arian diweddaraf 

Dilynwch ni