Neidio i'r prif gynnwy

Pwy sydd mewn perygl?

Gall feirysau a gludir yn y gwaed effeithio ar bobl o bob cefndir:

  • pobl a dderbyniodd drallwysiadau gwaed/cynhyrchion gwaed cyn 1991
  • trosglwyddiad fertigol (mam i fabi) er bod y risg yn isel
  • pobl a anwyd mewn gwledydd gyda chyfradd uchel o ddigwyddiadau e.e. De Ddwyrain Asia, Tsieina, Affrica Is-Sahara a Basn yr Amason, Dwyrain a De Ewrop, y Dwyrain Canol: neu'r rhai a deithiodd ac a dderbyniodd driniaeth ddeintyddol neu feddygol yn yr ardaloedd hyn.
  • pobl sydd wedi chwistrellu neu ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon a rhannu ‘gweithiau’ hyd yn oed unwaith - nodwyddau, llwyau, papurau, gwelltyn, sosbenni ac ati.
  • cyfathrach rywiol heb ddiogelwch. Y rhai sydd â risg uwch yw dynion sy’n cael rhyw gyda dynion (MSM), yn dibynnu ar arferion rhywiol a’r defnydd o ‘gyffuriau parti’
  • pobl sydd wedi cael tatŵ neu dyllu mewn parlyrau didrwydded
  • unigolion sy'n chwistrellu cyffuriau sy'n gwella delwedd (steroidau)
  • gallai cleifion sy'n cyflwyno profion swyddogaeth afu annormal (LFTs) yn eu profion gwaed fod wedi bod mewn perygl ar ryw adeg, felly mae'n syniad da profi am BBV.
  • Pobl sydd wedi cael triniaethau cosmetig e.e. Botox, Llenwyr, Microlafnu gan ymarferwyr heb drwydded neu ymarferwyr sy’n defnyddio offer heintiol

     

 

Dilynwch ni