Neidio i'r prif gynnwy

Hepatitis (Feirysol)

Mae'r gwasanaeth Hepatitis a Feirws a Gludir yn y Gwaed (BBV) wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Cynhelir clinigau bob bore Iau, a darperir gwasanaethau allgymorth yn y gymuned.

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ofal Sylfaenol, Eilaidd a Thrydyddol, Iechyd Rhywiol Integredig a Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol ledled Caerdydd a'r Fro.

Mae ein gwasanaeth yn darparu:

  • Cyngor arbenigol yn seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol a rhyngwladol
  • Addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y GIG ac asiantaethau allanol ledled Caerdydd a'r Fro, a Chymru
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd
  • Gweithio gydag asiantaethau partneriaethol i ddarparu'r gefnogaeth orau i gleifion a'u partneriaid/perthnasau agos.

 

Cysylltwch â ni

Ffôn: 029 2184 3618

Michelle Robinson:  029 2184 8159 / michelle.robinson3@wales.nhs.uk

Dilynwch ni