Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Prosthetig yr Aelodau

Yn dilyn atgyfeiriad at y Gwasanaeth, asesir pob unigolyn. Lle bo'n briodol bydd hyn yn arwain at weithgynhyrchu a darparu prosthesis addas a hyfforddiant dilynol i gynorthwyo i'w ddefnyddio

Disgrifiad o'r Gwasanaeth: ​​​​​​

Darparu brysbennu meddygol, mewnbwn, adolygiadau i gleifion cyn ac ar ôl trychiad, a chleifion â cholled aelodau cynhenid, mewn plant ac oedolion.

Darparu arweiniad a gwybodaeth feddygol am lawfeddygaeth cyn trychiad claf fel rhan o Dîm Amlddisgyblaethol ALAC (MDT) I wneud diagnosis/brysbennu problemau gyda'r rhai sydd wedi colli aelodau o'r corff sy'n hysbys i'r gwasanaeth, cyn, yn ystod neu ar ôl darparu prosthesis.

Cefnogi tîm amlddisgyblaethol ALAC i ddarparu proses adsefydlu cerdded i gleifion ag anghenion cymhleth a chydafiachedd

Darparu clinigau arbenigol ar golli aelodau pediatrig (gyda chydweithwyr orthopedig pediatrig) a phroblemau bonion cymhleth (gyda chydweithiwr llawdriniaeth blastig)

Polisi Comisiynu WHSSC: CP89 – Darpariaeth Brosthetig

Polisi Comisiynu WHSSC: CP221 – Prostheteg Hamdden a Chwaraeon ar gyfer pobl dan 25 oed

Polisi Comisiynu WHSSC: CP218 – Pengliniau Prosthetig a Reolir gan Ficrobrosesydd

Sut i gysylltu â’r Gwasanaeth Aelodau Prosthetig.

I gysylltu â'r Gwasanaeth Aelodau, ffoniwch y gwasanaeth agosaf atoch chi:

ALAS Caerdydd: 02921 848100 Opsiwn 3 - Gwasanaeth Aelodau Prosthetig

ALAS Abertawe: 01792 703015

ALAS Wrecsam: 03000 850055

Dilynwch ni