Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar

Croeso i ALAS

Mae’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAS) yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyson a theg i bobl yng Nghymru sydd â nam parhaol neu hirdymor.  Darperir ein gwasanaethau ar sail oes, gyda thua 150 o staff yn cael eu cyflogi (meddygol, nyrsio, therapi, technegol, gweinyddol a rheolaethol) sy'n gweithio'n agos fel tîm amlddisgyblaethol gyda chontractwyr a chyflenwyr i ddarparu datrysiad addas i gynyddu potensial ein defnyddwyr i adsefydlu yn eu cymuned.

Ein nod yw ei gael yn iawn y tro cyntaf, bob tro, gan ymdrechu i ragori ar ddisgwyliadau ein defnyddwyr pryd bynnag y bo modd.  Mae diogelwch ac ansawdd yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn, gan alluogi staff i allu darparu’r model gofal mwyaf priodol yn yr amgylcheddau gorau posibl i wneud yr hyn a wnânt orau o ddydd i ddydd – darparu gofal diogel o ansawdd uchel.

Mae'r Gwasanaeth yn darparu asesiad ac offer ar gyfer anghenion ystum corff a symudedd hanfodol pobl anabl.

Mae Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth adsefydlu rhagorol i bobl â nam. Ein nod yw cynyddu gallu a lleihau anabledd.

Comisiynir y Gwasanaethau Aelodau Artiffisial a Chyfarpar ar sail Cymru gyfan gan WHSSC. Darperir y gwasanaethau hyn gan ganolfannau yn Ne Ddwyrain, De Orllewin a Gogledd Cymru.

Mae’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn gweithredu o dair canolfan ar wahân:

  • ALAC Caerdydd
  • ALAC Abertawe
  • ALAC Wrecsam

 

Ein Gwasanaethau

 

 

 

Dilynwch ni