Neidio i'r prif gynnwy

Anestheteg

Chwistrell gyda photeli

 

Mae'r Adran Anestheteg yn darparu gwasanaethau anestheteg yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) a'r Ysbyty Deintyddol ym Mharc y Mynydd Bychan, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty Felindre. Mae'r Adran hefyd yn darparu gwasanaethau rheoli poen acíwt a chronig.

Gwasanaethau anestheteg

Ysbyty Athrofaol Cymru: 

Mae prif ystafell y theatr wedi'i lleoli ar lefel 3 bloc B. Mae'r gwasanaeth anesthesia arhosiad dydd wedi'i leoli ar lefel  y llawr gwaelod. Mae'r gwasanaeth anestheteg ar gyfer llawfeddygaeth cataract wedi'i leoli mewn theatr offthalmig yn y bloc cleifion allanol. Cynigir gwasanaethau anestheteg hefyd ar gyfer triniaethau radiolegol yn yr ystafell radioleg ac oncoleg bediatreg (canser plant) yn y bloc pediatreg newydd.

Ysbyty Athrofaol Llandochau: 

Mae'r brif theatr ar lawr cyntaf adain orllewinol yr ysbyty. Mae theatrau llawfeddygaeth ddydd wedi'u lleoli ar lefel y llawr gwaelod yn adain y gorllewin.

Ysbyty Deintyddol: 

Darperir gwasanaeth anesthesia deintyddol arhosiad dydd yn yr ysbyty hwn.

Ysbyty Felindre: 

Darperir anesthesia ar gyfer triniaethau oncolegol yn Felindre, canolfan arbenigol ar gyfer triniaeth canser.

Gwasanaethau Rheoli Poen

Mae'r gwasanaeth rheoli poen cronig wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC). Mae gwasanaeth rheoli poen acíwt ar gael ar safleoedd YAC ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Lleoliadau

Adran Anestheteg
Ward B3
Ysbyty Athrofaol Cymru
Y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW

Swyddfa Anestheteg YAC: 029 2074 3107


Adran Anestheteg
Lefel 1
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Ffordd Penlan
Bro Morgannwg

Swyddfa Anestheteg Llandochau: 029 2072 6860