Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Oncoleg Acíwt

Mae'r Gwasanaeth Oncoleg Acíwt (AOS) yn cefnogi cleifion canser sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty ac sy'n sâl gyda chymhlethdod o ganlyniad i'w canser, sgîl-effeithiau eu triniaeth canser (cemotherapi neu radiotherapi) neu sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser.

Beth mae ein gwasanaeth yn ei gynnig

Gwybodaeth a chyngor i gleifion / gofalwyr pan fydd claf wedi:

  • Cymhlethodau o ganlyniad i'w triniaeth canser h.y. Cemotherapi, Radiotherapi ac Imiwnotherapi
  • Cymhlethdodau o ganlyniad i ganser hysbys
  • Diagnosis newydd / a amheuir
  • Malaenedd o Darddiad Anhysbys (MUO) neu Ganser Nad yw ei Darddiad Sylfaenol yn hysbys (CUP)
  • Cywasgiad Metastatig ar Linyn Asgwrn y Cefn (MSCC) a amheuir neu a gadarnhawyd

Mae'r gwasanaeth ar gael ar hyn o bryd o ddydd Llun i ddydd Gwener o fewn oriau swyddfa, 9.00am - 5.00pm. Yn cwmpasu ysbytai derbyn aciwt Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau. Ein nod yw gweld pob claf yn cael ei atgyfeirio i'r gwasanaeth o fewn 24 awr i'r atgyfeiriad. Ymdrinnir ag atgyfeiriadau o ddydd Gwener neu ar benwythnosau ar y diwrnod gwaith nesaf (dydd Llun neu ddydd Mawrth os gŵyl y banc).

Beth yw ein nodau

  • Ddarparu asesiad ac adolygiad amserol ar gyfer cleifion canser
  • Gwella canlyniadau clinigol a chanlyniadau cleifion, a phrofiad pobl â chanser sy'n cael eu derbyn yn acíwt a'u gofalwyr
  • Gweithio'n agos gyda phob adran yn y bwrdd iechyd a Chanolfan Ganser Felindre
  • Sicrhau atgyfeiriadau cyflym i arbenigeddau eraill os oes angen
  • Darparu cyngor a chefnogaeth i staff clinigol sy'n gofalu am gleifion canser
  • Cynnal ymweliadau rheolaidd â'r wardiau y mae cleifion wedi'u derbyn iddynt
  • Lleihau hyd arosiadau

Pwy ydyn ni

  • Dr Juliette Lewis - Onco-geriatregydd Oncoleg Acíwt Macmillan
  • Jane Whittingham - Uwch Ymarferydd Nyrsio Oncoleg Acíwt Macmillan
  • Helen McMillan - Arbenigwr Nyrsio Clinigol Oncoleg Acíwt Acíwt Macmillan
  • Sarah Grady - Arbenigwr Nyrsio Clinigol Oncoleg Acíwt Macmillan
  • Sally Jones - Arbenigwr Nyrsio Clinigol Oncoleg Acíwt Macmillan
  • Karen Gillespie - Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg Acíwt
  • Rebecca Griffiths - Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg Acíwt
  • Sally Brown - Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Oncoleg acíwt
  • Suzanne Leverton - Ffisiotherapydd Arbenigol Oncoleg Acíwt
  • Rebecca Christy-Harold - Deietegydd Arbenigol Oncoleg Acíwt
  • Jeorgia Greenfield - Cydlynydd Gwasanaeth Oncoleg Acíwt Macmillan

Taflenni gwybodaeth i gleifion Macmillan

Canser Nad yw ei Darddiad Sylfaenol yn Hysbys (CUP) yw pan wneir diagnosis o canser eilaidd, ond hyd yn oed ar ôl i brofion gael eu cynnal, ni all meddygon ddweud ble y dechreuodd  y canser gyntaf. Nid yw'r canser sylfaenol yn hysbys.

Dysgwch am ganserau sylfaenol ac eilaidd, sut gwneir diagnosis o CUP, triniaethau y gallech eu cael, sgîl-effeithiau posibl a sut i gael cymorth pellach.

Canser Nad yw ei Darddiad Sylfaenol yn Hysbys (CUP)

Mae Cywasgiad Metastatig ar Linyn Asgwrn y cefn (MSCC) yn digwydd pan fydd canser yn tyfu yn yr asgwrn cefn neu'n agos ato ac yn pwyso ar linyn asgwrn y cefn a'r nerfau. Gall unrhyw fath o ganser ledaenu i esgyrn llinyn yr asgwrn cefn, ond mae MSCC yn fwy cyffredin mewn pobl â chanserau'r fron, yr ysgyfaint neu'r brostad, lymffoma, neu myeloma.

Darganfyddwch fwy am y cyflwr hwn.

Cywasgiad Metastatig ar linyn Asgwrn y Cefn (MSCC)

Dilynwch ni