Neidio i'r prif gynnwy

Dan Sylw - Cathy Fisher

Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’r rhai sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.

Bob mis, bydd yr ymgyrch Dan Sylw yn taflu goleuni ar y gwahanol bobl sy’n rhan o BIPCAF; o’r rhai sy’n cefnogi y tu ôl i’r llenni, i’r rhai y gwnaeth eu hangerdd eu harwain at weithio yn eu rôl.

Fel sefydliad gyda dros 17,000 o gydweithwyr, bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau, timau ac unigolion ar draws y bwrdd iechyd. Gall gweithio yn y GIG newid bywydau, i gydweithwyr ac i’r cleifion y maent yn eu helpu.


Mae Cathy Fisher yn Arbenigwr Rhoi’r Gorau i Smygu sy'n gweithio gydag ysmygwyr yng Nghaerdydd a'r Fro i'w helpu i roi'r gorau iddi trwy ddefnyddio cynhyrchion a chymorth ymddygiadol.

"Rwy'n rhan o dîm gwasanaeth cymunedol 'Helpa fi i Stopio'. Rwy'n mynychu meddygfeydd gwahanol ar draws Caerdydd a'r Fro ac yn cefnogi cleientiaid ar hyd eu taith i roi'r gorau iddi.

"Mae rhoi'r gorau i smygu yn anodd iawn i'r mwyafrif helaeth o'r bobl rwy'n eu gweld. Mae'n cymryd llawer o ewyllys a phenderfyniad."

Mae nifer yr ysmygwyr yng Nghaerdydd a'r Fro yn dal i fod yn 13% (2021-2022 a 2022-2023 gyda'i gilydd). Nod cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw lleihau nifer yr ysmygwyr i lai na 5% erbyn 2030.

"Rydym yn gwneud ein gorau i gyrraedd cymaint o bobl ag y gallwn drwy'r gwasanaeth 'Helpa Fi i Stopio', ac rydym yn annog pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i ofyn i'w cleifion a ydyn nhw'n ysmygu, ac os felly, i'w hatgyfeirio atom ni am gymorth a chyngor, i'n helpu ni i gyd i gyflawni'r targed hwn."

Beth ddylai pobl ei ddisgwyl gan y gwasanaeth Helpa Fi i Stopio os ydyn nhw'n cael eu hatgyfeirio?

"Yn gyntaf oll, mae holl wasanaethau Helpa Fi i Stopio yn hollol rhad ac am ddim. Bydd y rhai sy'n cael eu hatgyfeirio yn cael galwad gan naill ai’r ganolfan Helpa fi i Stopio neu un o arbenigwyr y tîm cymunedol. Yna rydym yn trefnu apwyntiad i ddod i mewn ar gyfer asesiad.

"Byddwn yn eich cefnogi am o leiaf saith wythnos drwy naill ai sesiynau ffôn, sesiynau wyneb yn wyneb neu sesiynau grŵp, yn dibynnu ar yr hyn sy’n well gennych. Gallwch hefyd ofyn am y gwasanaeth os cewch eich derbyn i'r ysbyty gan y bydd y gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu arbenigol yno i gynnig cymorth tra byddwch yn sâl.

"Gallwch gysylltu â'ch fferyllfa leol i weld a oes ganddynt fferyllydd Rhoi’r Gorau i Smygu sydd ar gael sy'n cynnig ein gwasanaeth. Os na, byddant yn rhoi gwybod i chi am yr un agosaf atoch.

"Rydym hefyd yn darparu 12 wythnos o gynhyrchion rhoi'r gorau i ysmygu am ddim. Mae hyn yn cyfateb i werth tua £250-£300 o gynhyrchion. Mae ymchwil wedi dangos bod unigolyn dair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi yn llwyddiannus trwy ddefnyddio cynhyrchion a chymorth ymddygiadol, na phe bai'n ceisio rhoi'r gorau iddi ar ei ben ei hun.

"Mae'n fraint cefnogi pob unigolyn tuag at lwyddiant, ac mae'n werth chweil gweld sut mae rhoi'r gorau i ysmygu yn newid eu bywydau a'u hiechyd yn gorfforol, yn emosiynol ac yn ariannol.

"Rydym yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt, ac yn sicr ni fyddwn yn barnu neb."

I gysylltu â thîm Helpa Fi i Stopio, gallwch hunanatgyfeirio drwy ffonio 0800 085 2219, gofyn am alwad yn ôl ar-lein gan Tudalen Gartref - Helpa Fi i Stopio neu tecstio HMQ i 80818.

Gallwch hefyd ofyn am gael eich atgyfeirio gan eich meddyg teulu neu nyrs practis drwy ofyn am Helpa fi i Stopio y tro nesaf y byddwch yn cael apwyntiad.

Mwy am sut rydym yn rhoi pobl yn gyntaf yn y strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol trwy ymweld â’r dudalen we hon: Hafan - Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol.

I weld y swyddi gwag presennol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i’r dudalen Swyddi ar ein gwefan yma: Swyddi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales)

Darllenwch am rolau a chydweithwyr eraill sydd wedi bod yn cael sylw yma.