16 Chwefror 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi’i enwi’n un o’r 100 sefydliad gorau ar gyfer gweithwyr LGBTQ+ am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi'i restru yn 80 ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall eleni, sy'n dathlu'r 100 sefydliad sy'n perfformio orau ledled y DU ar gyfer Cydraddoldeb LGBTQ+.
Gan ennill Gwobr Aur, barnwyd BIP Caerdydd a’r Fro ar bolisi ac arfer cyflogaeth y sefydliadau yn ogystal ag arolygon a gwblhawyd yn ddienw gan staff am eu profiadau o amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.
Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan Stonewall ar gynhwysiant gweithlu , mae mwy na thraean o staff LGBTQ+ (35 y cant) yn cuddio pwy ydyn nhw yn y gwaith, tra bod un o bob pump (18 y cant) wedi bod yn darged sylwadau negyddol oherwydd eu bod yn LGBTQ+ .
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gael ei gydnabod am yr ymdrechion a wnaed i wneud gweithleoedd yn deg ac yn gyfiawn i bobl LGBTQ+.
Edrychwch ar y rhestr lawn o sefydliadau sydd wedi'u cynnwys ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle eleni , neu darllenwch fwy am Rwydwaith Staff LGBTQ+ gan gynnwys proffiliau aelodau ei bwyllgorau a gwybodaeth am sut i gofrestru.