Mae cleifion yn elwa o system ragnodi ddigidol newydd wrth i siartiau papur wrth ochr y gwely gael eu disodli yn yr ysbyty mwyaf yng Nghymru.
Mae staff sy'n gweithio ar wardiau arennol a thrawsblaniadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd bellach yn defnyddio Rhagnodi Electronig a Gweinyddu Meddyginiaethau (ePMA). Nhw yw'r adrannau cyntaf yn y bwrdd iechyd i ddechrau defnyddio'r system newydd, sydd wedi'i chyflwyno mewn cydweithrediad ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), Llywodraeth Cymru a'r cyflenwr technoleg Nervecentre.
Dros y misoedd nesaf, bydd y feddalwedd yn cael ei rhoi ar waith fesul ward ar draws safleoedd cleifion mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Bydd y dechnoleg yn helpu i leihau'r potensial am wallau meddyginiaeth a gwneud darparu gofal yn fwy diogel ac effeithlon, gyda chleifion a staff yn teimlo manteision.
Dywedodd Arweinydd Rhaglen ePMA Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Elaine Lewis: “Rwy’n gyffrous i weld yr effaith gadarnhaol y bydd y system newydd yn ei chael ar draws ein cyfleusterau, ar gyfer y bobl rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw ac ar gyfer ein gweithlu ymroddedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
“Mae’r garreg filltir hon yn ganlyniad blynyddoedd o waith caled a chydweithio rhwng ein tîm ePMA yng Nghaerdydd, IGDC, Llywodraeth Cymru a Nervecentre. Mae'r prosiect cyffrous eisoes yn gweld effaith ar lawr gwlad ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran.”
Mae ePMA yn ffurfio elfen allweddol o'r Rhaglen Moddion Digidol genedlaethol a reolir gan IGDC.
Dywedodd Dr Lesley Hewer, Cadeirydd Rhaglen Genedlaethol ePMA IGDC: “Mae’n wych gweld Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cymryd cam cyntaf mor bwysig yn y broses o gyflwyno systemau rhagnodi electronig yn ei ysbytai.
“Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yw'r ail fwrdd iechyd i gyflwyno a'r cyntaf i ddefnyddio system newydd i Gymru gan Nervecentre. Mae'r tîm wedi gweithio'n dda gyda phartneriaid IGDC i'w helpu nhw i gyflawni'r garreg filltir bwysig hon."
Dywedodd Paul Volkaerts, Prif Swyddog Gweithredol Nervecentre: “Mae’n wych gweld Caerdydd a’r Fro yn arwain y ffordd fel y bwrdd iechyd cyntaf i fabwysiadu ePMA ar ein platfform cwmwl. Rydym yn hynod gyffrous i bartneru â darparwr GIG sy'n croesawu'r un dechnoleg cwmwl arloesol yr ydym i gyd yn ei defnyddio bob dydd. Dyma adeg hollbwysig i saernïaeth y GIG, ac rydym eisoes yn gweld ei fod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i staff a chleifion.”
Dywedodd Prif Swyddog Fferyllol Cymru, Andrew Evans: “Mae’r newid i bresgripsiynu digidol ar draws pob ysbyty a gofal sylfaenol yn cefnogi cynhyrchiant cynyddol y GIG ac yn arwain at welliannau pellach yn y defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau.
“Mae’r cyhoeddiad bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cyflwyno ePMA i’w wardiau arennol ac yna safleoedd ysbyty yn enghraifft arall o’r cynnydd rhagorol sy’n cael ei wneud i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi rhagnodi electronig ar waith yn llawn yng Nghymru.”
Yn dilyn prosiect braenaru llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn symud o siartiau papur wrth ymyl y gwely i systemau digidol. Mae pob un bellach wedi cyhoeddi partneriaethau â'u cyflenwyr meddalwedd dewisol a gallwch ddarllen mwy ar dudalennau newyddion Moddion Digidol.