Neidio i'r prif gynnwy

Saving Lives in Cardiff

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dychwelyd i’n sgriniau y gwanwyn hwn gydag ail gyfres o Saving Lives in Cardiff ar y BBC, a fydd yn cael ei darlledu ar 9 Ebrill.

Wedi'i chynhyrchu gan Label1 ar gyfer BBC One Wales a BBC Two, cafodd Saving Lives in Cardiff ei ffilmio dros sawl mis yn 2024 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Cafodd y rhaglen fynediad unigryw i bob un o’r tri ysbyty a chawn gipolwg gonest, y tu ôl i’r llenni ar y llawfeddygon anhygoel wrth eu gwaith o ddydd i ddydd.

Dros chwe phennod awr o hyd, bydd Saving Lives in Cardiff yn dangos i'r cyhoedd y penderfyniadau anodd y mae clinigwyr yn eu gwneud bob dydd wrth iddynt ddewis pwy i'w drin nesaf, ac yn archwilio teithiau emosiynol cleifion wrth iddynt gael llawdriniaethau sy'n newid bywyd.

Mae pob llawfeddyg yn cynnig cipolwg prin ar yr heriau maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd wrth iddynt drin pobl o bob oed yn fedrus - gan gynnwys llawdriniaeth ar y galon heb ddefnyddio peiriant dargyfeiriol, llawdriniaeth robotig gymhleth ar diwmor retropharyngeal, y cyntaf o’r fath yng Nghymru, a niwrolawdriniaeth i drin trigeminal neuralgia, cyflwr sy'n achosi poen dwys i'r wyneb.

Dywedodd Jason Roberts, Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol: “Rwy’n falch iawn bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael cyfle arall i arddangos y gwaith anhygoel y mae ein cydweithwyr yn ei wneud bob dydd i drin ein cleifion, yn lleol a ledled Cymru. Mae’r ail gyfres o Saving Lives in Cardiff yn parhau i ddangos y cymhlethdodau sydd wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn, a’n hymrwymiad i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Rydym yn gwerthfawrogi nad oes unrhyw lawdriniaeth heb ei risg ac mae'r gyfres hon yn dangos cydweithwyr yn ymddwyn gyda phroffesiynoldeb, arbenigedd a thosturi, gan ddangos yn glir werthoedd y Bwrdd Iechyd."

Gwyliwch Saving Lives in Cardiff ar BBC One Wales a BBC Two. Wedi colli pennod? Daliwch i fyny ar BBC iPlayer.

'Y peth gorau am fy rôl yw'r bobl' | Gwyliwch ail bennod Saving Lives in Cardiff ddydd Mercher
Cyfres newydd o BBC Saving Lives in Cardiff yn dod yn fuan: Cwrdd â Sêr Llawfeddygaeth
'Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i wneud ein gorau glas dros ein cleifion' | Gwyliwch bennod 3 o Saving Lives in Cardiff ddydd Mawrth   
'Ni fyddwn byth yn rhoi'r gorau i helpu unrhyw un' | Gwyliwch bennod olaf Saving Lives in Cardiff ddydd Mawrth
Dilynwch ni