Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni'n fyw! Wardiau cyntaf yn YAC yn presgripsiynu a gweinyddu gyda system presgripsiynu electronig newydd

Staff ar ein wardiau Neffroleg (arennau) a thrawsblaniadau yw'r cyntaf i ddefnyddio a phrofi ein system presgripsiynu electronig newydd. Mae'r system hon yn cyfnewid siartiau meddyginiaeth papur gyda dyfeisiau digidol.

Mae'r lansio yn benllanw misoedd, a blynyddoedd, o waith a pharatoi gan dimau amlddisgyblaethol ar draws y Bwrdd Iechyd.

"Rydyn ni mor falch bod y cyflwyniad ar y gweill. Rwy'n llawn cyffro i weld y manteision bydd y system yn eu cael i'r bobl rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw, ac i'n gweithlu ymroddedig yma yn BIP Caerdydd a'r Fro." Meddai Elaine Lewis, Arweinydd Rhaglen PGMe.

Mae'r system newydd hon 'Presgripsiynu a Gweinyddu Meddyginiaethau yn electronig' (PGMe) yn gwella prosesau i'n cleifion a'n staff a bydd yn cael ei chyflwyno, ward wrth ward, dros y misoedd nesaf.

Llongyfarchiadau i Megan B, yr aelod cyntaf o’r staff nyrsio i roi meddyginiaeth gan ddefnyddio'r system!

Os ydych chi yn yr ysbyty, yn ymweld neu'n gweithio, byddwch yn gweld ein cydweithwyr yn yr ysbyty yn defnyddio dyfeisiau digidol yn hytrach na siartiau papur fel rhan o'u gwaith o ddydd i ddydd, ond ni ddylai eich profiad gael ei effeithio.

Gallwch adnabod ein cydweithwyr PGMe wrth eu crysau polo melyn. Byddan nhw’n hapus i ateb cwestiynau am bresgripsiynu electronig.

Mae yna hefyd gwestiynau cyffredin, a mwy o wybodaeth, ar gael yma: Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn electronig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dilynwch ni