Neidio i'r prif gynnwy

Ysgolion cynradd yn y Fro yn dod ynghyd i ddathlu iechyd a lles

Daeth ysgolion cynradd ar draws Bro Morgannwg at ei gilydd fis diwethaf i ddathlu eu gwaith gwych yn hybu iechyd a lles cadarnhaol. 

Ymgasglodd tua 120 o ddisgyblion, athrawon a gweithwyr eraill yr ysgolion yng Nghanolfan y Celfyddydau Memo yn y Barri am ddiwrnod o hwyl a dysgu ddydd Mercher, Mehefin 28. 

Rhoddodd yr ysgolion gyflwyniadau ar brosiectau yr oeddent wedi’u cyflawni ynghylch iechyd a lles a chafodd pob un ohonynt eu cydnabod am eu cyflawniadau. 

Bu’r Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg yng Nghyngor Bro Morgannwg, yn cyflwyno gwobrau i ysgolion am ragoriaeth mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys y rhaglen Eco-Sgolion, Cynllun Gwên a Llysgenhadon Hawliau Plant. 

Cafodd ysgolion eu cydnabod hefyd am ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Cynllun Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru naill ai am y tro cyntaf neu fel ailasesiad. 

Ni eisteddodd neb yn llonydd am gyfnod hir gan fod y digwyddiad yn annog pawb a oedd yn bresennol i fod yn actif. Roedd y gweithgareddau ‘deffro a symud’ yn galluogi pawb a oedd yno i symud o gwmpas. Llwyddodd y sesiynau i greu egni yn y neuadd gyda llawer o chwerthin, hwyl a symud.  

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am yr ystod drawiadol o wasanaethau a sefydliadau sy’n bodoli i helpu ysgolion i ddatblygu eu gwaith iechyd a lles. 

Roedd stondinau gan amrywiaeth o sefydliadau y gallai disgyblion a staff yr ysgolion ymweld â nhw. Fel rhan o hyn, gallai disgyblion hefyd ddod o hyd i’r atebion i gwestiynau cwis Iechyd a Lles. 

Roedd yr ysgolion a fynychodd yn gadael gydag ymdeimlad o gyflawniad ar gyfer y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud, yn ogystal â chael eu hysbrydoli gan y gwaith mewn ysgolion eraill. 

Roedd Claire Beynon, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, yn bresennol yn y digwyddiad a chafodd ei hysbrydoli. Dywedodd: “Roeddwn yn falch iawn o fynychu’r ‘Dathliad Iechyd a Lles’ hwn i ysgolion cynradd Bro Morgannwg. Roedd y cyflwyniadau a roddwyd yn dangos cymaint o frwdfrydedd a chreadigrwydd sydd yn ein hysgolion, ac yn dangos ymrwymiad enfawr i’r gwaith hollbwysig hwn.  

“Diolch i’r stondinwyr am ddod draw a rhannu’r gwasanaethau rhagorol y maent yn eu cynnig. Rydym wir yn cydnabod cyfraniadau pob un ohonoch. Diolch yn fawr ac edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd eto yn y digwyddiad nesaf.” 

Dilynwch ni