Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod gwyliau haf yr ysgol cynigir y brechlyn MMR mewn sesiynau dros dro ar draws Caerdydd

Brechlyn MMR

26 Gorffennaf 2024

Bydd plant ac oedolion a gollodd y cyfle i gael y ddau ddos ​​o’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) yn gallu manteisioar sesiynau brechu dros dro yn ystod gwyliau haf yr ysgol.

Drwy gydol gwyliau haf yr ysgol (o 29 Gorffennaf - 30 Awst) bydd tîm imiwneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig brechiadau yn:

  • Hyb Grangetown, Havelock Place, CF11 6PA - Dydd Llun, 10am-3pm

  • Hyb Llesiant Maelfa, Llanedeyrn, CF23 9PF - Dydd Mawrth, 10am-3pm

  • Hyb Trelái a Chaerau, Heol Orllewinol y Bont-faen, CF5 5BQ - Dydd Mercher, 10am-3pm

  • Canolfan Iechyd Glan yr Afon, Canton Court, CF11 9SH - Dydd Iau, 9.30am-12 canol dydd

Fel arfer, rhoddir un dos o’r brechlyn MMR i blant sy’n 12 mis oed, ac ail un yn dair oed a phedwar mis. Fodd bynnag, mae cannoedd o blant dros bump oed ar draws Caerdydd a’r Fro sydd dal heb dderbyn un dos, sy’n eu rhoi mewn perygl.

Mae’r frech goch yn salwch feirysol heintus iawn a all achosi cymhlethdodau difrifol, gan gynnwys problemau gyda’r galon a’r system nerfol, colli golwg a llid yr ymennydd. Yn y sefyllfa waethaf, gall pobl hyd yn oed golli eu bywydau.

Mae'r frech goch hefyd yn un o'r clefydau mwyaf heintus yn y byd, sy'n golygu y gall ledaenu'n rhyfeddol o gyflym os nad yw pobl yn cael eu brechu. Fodd bynnag, mae dau ddos ​​o'r brechlyn MMR yn fwy na 95% yn effeithiol o ran atal y frech goch.

Mae symptomau cychwynnol y frech goch yn datblygu tua 10 diwrnod ar ôl i unigolyn gael ei heintio. Gall y rhain gynnwys:

  • symptomau tebyg i annwyd, fel trwyn yn rhedeg, tisian a pheswch
  • llygaid dolurus, coch a allai fod yn sensitif i olau
  • tymheredd uchel (twymyn), a allai gyrraedd tua 40C
  • smotiau bach llwyd-wyn ar y tu mewn i’r bochau

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, bydd brech goch-frown yn ymddangos. Mae hyn fel arfer yn dechrau ar y pen neu ran uchaf y gwddf cyn lledaenu tuag allan i weddill y corff.

Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Cael y brechlyn MMR yw’r ffordd orau o amddiffyn eich plentyn ac eraill o’u cwmpas. Mae miliynau o ddosau o’r brechlyn wedi cael eu rhoi ledled y byd ers dros 30 mlynedd. Mae fersiwn o’r brechlyn nad yw’n cynnwys gelatin hefyd ar gael.”

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd a’r Fro ac yn ansicr a yw eich plentyn wedi cael y brechlyn MMR, fe’ch anogir i wirio cofnod iechyd personol y plentyn (llyfr coch) yn y lle cyntaf. Os ydych yn parhau i fod yn ansicr, mae opsiynau eraill yn cynnwys:

  • Cysylltu â’r Tîm Iechyd Plant Lleol ar 02921 836926 neu 02921 836929
  • Cysylltu â’ch Practis Meddyg Teulu, gan osgoi adegau mwyaf prysur y dydd, fel boreau cynnar, lle bo modd.
Dilynwch ni