30 Ebrill 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal digwyddiad recriwtio ar 16 Mai, gan arddangos yr amrywiaeth eang o rolau ar draws y Bwrdd Iechyd. Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd a bydd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau gyrfa gyda’r Bwrdd Iechyd.
Byddwch yn cael y cyfle i gwrdd ag amrywiaeth o adrennau a phroffesiynau, gan arddangos y cyfoeth o yrfaoedd sydd ar gael o fewn y Bwrdd Iechyd.
Mae’r swyddi sydd ar gael yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhai a ddangosir yn yr adran swyddi ar ein gwefan. Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty’r Hilton yng Nghanol Caerdydd (CF10 3HH) ar 16 Mai 2024, 10am – 2pm. Dewch draw i ddysgu beth sydd gennym i’w gynnig. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyn y digwyddiad, e-bostiwch: workforcerecruitment.cav@wales.nhs.uk