Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â ni yn ein Digwyddiad Recriwtio ym mis Mai

10 Mai 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal digwyddiad recriwtio ar 24 Mai, gan arddangos yr amrywiaeth eang o rolau ar draws y Bwrdd Iechyd. Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd a bydd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau gyrfa gyda’r Bwrdd Iechyd.

Bydd mynychwyr yn gallu ymweld â stondinau a siarad â rheolwyr am yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael, yn cynnwys meysydd fel gweinyddu, cyfleusterau, labordai, fflebotomi, nyrsio a llawer mwy. Mae gan y Bwrdd Iechyd amrywiaeth o swyddi rhan-amser ac amser llawn.

Bydd aelodau o’n tîm yn bresennol i roi cyngor ar dechnegau cyfweliad a cheisiadau am swyddi, yn ogystal â rhannu eu profiadau o weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae’r swyddi sydd ar gael yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhai a ddangosir yn yr adran swyddi ar ein gwefan. Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty’r Hilton yng Nghanol Caerdydd (CF10 3HH) ar 24 Mai 2023, 10am – 3pm. Dewch draw i ddysgu beth sydd gennym i’w gynnig. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyn y digwyddiad, e-bostiwch: workforcerecruitment.cav@wales.nhs.uk

Dilynwch ni