11 Hydref 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal digwyddiad recriwtio ar 19 Hydref, gan arddangos yr amrywiaeth eang o rolau ar draws y Bwrdd Iechyd. Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd a bydd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau gyrfa gyda’r Bwrdd Iechyd.
Bydd mynychwyr yn gallu ymweld â stondinau a siarad â rheolwyr am yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael, yn cynnwys meysydd fel gweinyddu, cyfleusterau, labordai, fflebotomi, nyrsio a llawer mwy. Mae gan y Bwrdd Iechyd amrywiaeth o swyddi rhan-amser ac amser llawn.
Bydd aelodau o’n tîm yn bresennol i roi cyngor ar dechnegau cyfweliad a cheisiadau am swyddi, yn ogystal â rhannu eu profiadau o weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae’r swyddi sydd ar gael yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhai a ddangosir yn yr adran swyddi ar ein gwefan. Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty’r Hilton yng Nghanol Caerdydd (CF10 3HH) ar 19 Hydref 2023, 10yb – 2yp. Dewch draw i ddysgu beth sydd gennym i’w gynnig. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyn y digwyddiad, e-bostiwch: workforcerecruitment.cav@wales.nhs.uk