4 Tachwedd 2024
Ymunwch â miliwn o bobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglen ymchwil uchelgeisiol 'Ein Hiechyd yn y Dyfodol'.
Mae rhaglen ymchwil Ein Hiechyd yn y Dyfodol yn ceisio denu pum miliwn o wirfoddolwyr, gyda'r nod o drawsnewid y broses o atal, canfod a thrin cyflyrau fel
Mae'n gydweithrediad uchelgeisiol rhwng y GIG, y sector preifat ac elusennau iechyd blaenllaw y DU, sef yr astudiaeth fwyaf o'i math yn y byd gan ddefnyddio samplau gwaed.
Mae dros filiwn o bobl o bob rhan o'r DU eisoes wedi ymuno, gan gynnwys y nifer fwyaf erioed o gyfranogwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn rhaglen ymchwil iechyd.
Mae pob oedolyn sy'n byw yn y DU yn gymwys i ymuno â Ein Hiechyd yn y Dyfodol, gan gynnwys pobl â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes. Drwy gymryd rhan yn Ein Hiechyd yn y Dyfodol, y gobaith yw cefnogi darganfyddiadau newydd a fydd yn helpu pawb i fyw bywydau hirach ac iachach. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddarganfod mwy am eich iechyd eich hun a'ch risg o glefyd yn y dyfodol.
Mae gwirfoddoli'n golygu cwblhau arolwg a rhoi gwaed mewn fferyllfeydd neu glinigau penodol. Mae safleoedd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Gallwch ddarganfod mwy am Ein Hiechyd yn y Dyfodol yma.