2 Gorffennaf 2025
Mae'r tîm sy'n hyrwyddo ymgyrch i ddileu defnydd diangen o fenig ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a thu hwnt wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol. Ddydd Gwener 20 Mehefin, derbyniodd aelodau o'r timau Gofal Critigol a Siapio Newid Wobr Cynaliadwyedd GIG Cymru mewn seremoni a gynhaliwyd yn Arena Abertawe.
Dan arweiniad y tîm Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru a chefnogaeth y tîm Siapio Newid, mae'r ymgyrch yn annog staff i fod yn fwy ymwybodol ynglŷn â'u defnydd o fenig plastig tafladwy - gan eu gwisgo dim ond pan fydd y risg yn ei gwneud yn ofynnol.
Derbyniodd yr ymgyrch y 'Wobr Lledaeniad a Graddfa’ sy'n dathlu'r prosiect sydd fwyaf addas i'w fabwysiadu ledled Cymru. Fe'i cyflwynwyd i Hayley Valentine, Arweinydd Nyrsio Ansawdd a Diogelwch a Chloe Barnes, Addysgwr Ymarfer, y ddwy o'r tîm Gofal Critigol ynghyd â Chloe Chettleburgh, Dylunydd Cynnwys a Kate Blower, Rheolwr Gwella Gwasanaethau o'r tîm Siapio Newid.
Dywedodd Hayley, aelod allweddol o dîm yr Uned Gofal Dwys Gwyrdd: “Rydym wrth ein bodd ac yn falch iawn o dderbyn y wobr hon! Mae'n gydnabyddiaeth mor wych o'r gwaith anhygoel y mae'r tîm Gofal Critigol yn ei wneud gyda'r ymgyrch Menig i Ffwrdd. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu'n wirioneddol y newidiadau meddylgar y mae pob aelod o'r tîm yn eu gwneud i helpu ein planed, cleifion, a'n gilydd hyd yn oed yng nghanol amgylchedd clinigol prysur a heriol.
“Gobeithiwn, drwy rannu llwyddiant y prosiect hwn, y bydd mwy o dimau’n cael eu hysbrydoli i ymuno a gwneud newidiadau cadarnhaol, yn union fel y mae’r staff anhygoel mewn Gofal Critigol yn ei wneud bob dydd. Ni allem fod yn hapusach nac yn fwy balch!”
Cynyddodd y defnydd o PPE gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ystod pandemig COVID-19 ac arweiniodd at arfer o or-ddibynnu ar fenig. Mae’r ymgyrch Menig i Ffwrdd yn pwysleisio pwysigrwydd hylendid dwylo da, gwerth cyffyrddiad corfforol mewn gofal cleifion, yr arbedion mewn gwastraff plastig a gwariant.
Mae'r tîm ar y trywydd iawn i gyflawni eu nod o leihau gwariant menig 10%. Yn 2025, mae'r tîm Gofal Critigol yn disgwyl lleihad o 19,200 yn eu defnydd o fenig, gan arbed £9,000 ac atal 83kg o wastraff plastig. Maent eisoes wedi arbed £4,803 a rhagwelir y byddant yn rhagori ar eu targed. Mae eu gostyngiad carbon presennol o 4,056kg CO2e yn cyfateb i hedfan o Gaerdydd i Sharm El Sheikh, yr Aifft.
Cynyddodd momentwm yr ymgyrch ar ôl i'r tîm fynychu Academi Lledaeniad a Graddfa Argyfwng yr Hinsawdd ym mis Tachwedd 2024, gan eu helpu i sicrhau cyllid i greu a dosbarthu deunyddiau ymgyrch i bob bwrdd iechyd yng Nghymru.
Yn seiliedig ar eu dysgu a'u hymchwil, creodd Siapio Newid becyn cymorth cynhwysfawr i gefnogi adrannau a byrddau iechyd eraill i weithredu'r newid ymddygiad hwn. Mae hyn yn cynnwys:
Dywedodd Chloe Chettleburgh o Siapio Newid: “Mae ennill y wobr hon ochr yn ochr â’r tîm Gofal Critigol yn ein llenwi â balchder aruthrol. Fel aelodau o Siapio Newid yng Nghaerdydd a'r Fro, mae'r prosiect hwn yn cynrychioli cyflawniad sylweddol, sy'n cael ei gydnabod am arwain newid cynaliadwy ledled Cymru. Rydym wrth ein bodd yn gweld Byrddau Iechyd eraill yn mabwysiadu ein dull a'n hadnoddau i yrru trawsnewidiad pellach.”
Ychwanegodd Rheolwr Gwella Cynaliadwyedd Amgylcheddol BIP Caerdydd a'r Fro, Arjun Padmavathy: "Mae’r ymgyrch Menig i Ffwrdd yn enghraifft ardderchog o brosiect sy'n lleihau allyriadau carbon, yn arbed arian, ac yn gwella'r defnydd o adnoddau yn y lleoliad clinigol heb beryglu diogelwch ac ansawdd y gofal i gleifion. Mae ganddo'r potensial i gael ei ledaenu a'i ehangu ar draws pob rhan o'r bwrdd iechyd. Rwy'n annog pawb yn garedig i gysylltu â'r tîm a defnyddio eu hofferyn 'Sut i wneud' i gychwyn yr ymgyrch Menig i Ffwrdd yn eich ardal gwasanaeth eich hun.
Mae Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru yn dathlu'r rhai sy'n gweithio gyda'i gilydd i leihau effaith amgylcheddol gofal iechyd, darparu arferion mwy cynaliadwy a chyfrannu at dargedau datgarboneiddio.
Yn ogystal â’r ymgyrch Menig i Ffwrdd, cafodd naw prosiect arall o BIP Caerdydd a’r Fro eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau gan gynnwys: