Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nursing Times 2024

20 Medi 2024
Heddiw yw Diwrnod Red4Research 2024, diwrnod sy’n benodol i bawb sy’n cymryd rhan mewn ymchwil, yn ei gynnal a’i gefnogi. Mae ymchwil yn hollbwysig i’n helpu i ddysgu mwy am iechyd a lles a darparu triniaethau newydd, brechlynnau, diagnosis a gofal i wella ansawdd bywyd ar hyn o bryd ac am genedlaethau i ddod.

Un astudiaeth a gynhaliwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro oedd yr astudiaeth CART QUOL dan arweiniad nyrsys – yn canolbwyntio ar ansawdd bywyd cleifion sy’n cael therapi celloedd CAR-T. Mae ymchwil yn awgrymu bod derbyn therapi celloedd CART-T yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd claf, a gwnaeth y rheolwr nyrsys ymchwil a’r Prif Ymchwilydd Emma Williams arwain ei hastudiaeth ei hun o Ysbyty Athrofaol Cymru, yr unig safle yn y wlad sydd wedi gwneud astudiaeth o’r fath yn ystod Covid 19 ac sydd wedi cael ei gyhoeddi.

Roedd cyfranogwyr a recriwtiwyd i'r astudiaeth wedi cael diagnosis o Lymffoma Celloedd B Mawr Ymledol ac roeddent yn gymwys ar gyfer therapi celloedd CAR-T. Mae hon yn driniaeth imiwnotherapi ddwys ac arbenigol sy'n ymosod ar gelloedd canser. Gall therapi celloedd CAR-T fod yn heriol iawn yn gorfforol ac yn emosiynol i gleifion yn ogystal â gorfod treulio cyfnodau hir o amser yn yr ysbyty ac i ffwrdd oddi wrth eu hanwyliaid.

Yn ogystal â nifer o argymhellion nyrsio a nodir yn yr astudiaeth hon, mae astudiaeth CART QUOL wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr Nursing Times 2024 yn y categori Nyrsio Ymchwil Clinigol ynghyd â datblygu’r portffolio dan arweiniad nyrsys a hyfforddi Prif Ymchwilwyr Nyrsio. Bydd Emma a'r tîm yn mynychu'r seremoni wobrwyo ym mis Hydref.

Astudiaeth arall dan arweiniad nyrsys, a arweiniwyd gan Emma Williams a'i nyrsys ymchwil yw’r astudiaeth PROPEL. Mae hwn yn archwilio ansawdd bywyd cleifion, eu lles emosiynol, a statws maethol cleifion sydd wedi cael diagnosis o Lewcemia Myeloid Acíwt.

Mae cyfranogwyr yn cael eu dewis ar hap i naill i dderbyn pecyn gofal safonol a fyddai fel arfer yn cael ei roi ar y safle o gymharu â phecyn gofal personol wedi’i deilwra i’r unigolyn, mae hyn yn cynnwys cymorth iechyd meddwl yn ogystal â threfn ymarfer corff wedi’i theilwra’n benodol. Mae'r tîm ymchwil yn ymchwilio i weld a yw'r cymorth ychwanegol yn helpu cleifion i wella'n gyflymach ar ôl cael triniaeth, gan dreulio llai o amser yn yr ysbyty. Mae dau gyfranogwr wedi’u recriwtio yn Ysbyty Athrofaol Cymru hyd yn hyn ac mae’r tîm yn gobeithio gweld mwy o recriwtiaid hyd nes y daw’r astudiaeth i ben yn 2025.

Mae Emma yn falch o'r gwaith y mae hi a'i thîm yn ei wneud, a dywedodd:

“Mae ymchwil dan arweiniad nyrsys yn hollbwysig gan ei fod yn ychwanegu dyfnder ac ehangder at y portffolio ymchwil. Mae cleifion yn tueddu i ofyn cwestiynau gwahanol iawn i nyrsys i'r rhai a drafodwyd gyda'r Clinigwr. Mae cael portffolio o astudiaethau dan arweiniad nyrsys yn galluogi'r gwahaniaethau hyn mewn safbwyntiau i gael eu lleisio. Mae gofal iechyd sy’n seiliedig ar werthoedd yn cefnogi’r gwaith parhaus o gomisiynu cyffuriau a chyfryngau newydd a gall ddarparu gwybodaeth hanfodol am effaith clefydau a thriniaethau, gall hefyd ddarparu rhagfynegiad o bwy fydd yn debygol o elwa fwyaf ar driniaethau (Fallowfield 2002)."

Dilynwch ni