Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb ynglŷn â Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghaerdydd

06 Mawrth 2025

Rydym yn ymwybodol o rywfaint o wybodaeth anghywir a rannwyd gan Mind Caerdydd sy'n awgrymu bod cyllid ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl wedi'i gwtogi yn ardal Caerdydd.

Rydym yn sylweddoli y gallai hyn achosi pryder ond rydym am roi sicrwydd i’r boblogaeth nad yw cyllid yn cael ei dynnu’n ôl yn ardal Caerdydd.

Gall y Bwrdd Iechyd gadarnhau na fydd y contractau Haen 0 a Gwasanaethau Dydd ar gyfer rhanbarth Caerdydd yn cael eu hadnewyddu gyda’r darparwr presennol Mind Caerdydd ar ôl 31 Mawrth 2025. Mae proses dendro wedi agor i gomisiynu darparwr newydd i ddarparu’r gwasanaeth dydd o 1 Ebrill 2025. Bydd darpariaeth Haen 0 yn cael ei hysbysebu'n fuan gyda bwlch bach yn y ddarpariaeth.

Fel rhan o’n gwaith craffu wrth gomisiynu gwasanaethau, mae’r Bwrdd Iechyd yn adolygu contractau i sicrhau eu bod yn rhoi gwerth am arian, bod telerau’r contract yn cael eu bodloni, a bod y darparwr yn darparu’r gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen ar y boblogaeth leol.

Mae Mind Caerdydd yn dal i fod dan gontract i ddarparu’r gwasanaethau tan 31 Mawrth 2025 ac rydym yn gweithio’n gyflym i sicrhau newid cyflym fel na ddylai trigolion Caerdydd fod dan anfantais yn ystod y cyfnod hwn, tra bod darparwr newydd yn cael ei gomisiynu.

Dilynwch ni