Neidio i'r prif gynnwy

Ymarferydd Nyrsio Arweiniol yn BIP Caerdydd a'r Fro yn Derbyn Gwobr Nyrs y Flwyddyn

06 Gorffennaf 2023

Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro longyfarch yr Ymarferydd Nyrsio Arweiniol Tara Rees am ei buddugoliaethau yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn a gynhelir gan Goleg Brenhinol Nyrsio Cymru.

Ar 29 Mehefin 2023, derbyniodd Tara y gwobrau am Nyrsio Uwch ac Arbenigol, a phrif wobr Nyrs y Flwyddyn. Mae Tara yn gweithio yn y tîm hepatoleg o fewn y Bwrdd Iechyd ac mae wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol i ofal cleifion a datblygu gwasanaethau.

Mae Tara wedi ymroi ei gyrfa i greu gwasanaethau newydd ar gyfer y rhai ag anghenion arbenigol. Mae ei chyfraniadau i ofal iechyd yn cynnwys cynlluniau cyflawni ar gyfer clefyd yr afu, clinigau hepatitis feirysol cymunedol a datblygu gwasanaeth newydd ar gyfer cleifion â chlefyd yr afu diwedd cyfnod.

Ar y noson, dywedodd Tara, “Rwy’n hynod falch ac mae hwn yn uchafbwynt yn fy ngyrfa nyrsio. Mae'n wir anrhydedd ac yn un yr wyf yn ei derbyn yn barchus. Byddaf yn defnyddio'r llwyfan i dynnu sylw at nyrsio mewn clefyd yr afu gan fod hwn fel arfer yn arbenigedd sydd wedi'i guddio o dan yr ymbarél gastroenteroleg. Mae’n heriol ac yn rhoi boddhad mawr ac rwy’n frwdfrydig dros gymell eraill a byddaf yn annog nyrsys i arddangos eu gwaith rhagorol. Hoffwn fod yn fodel rôl ac yn llysgennad a gobeithio y byddaf yn annog pobl i ymuno â’r proffesiwn nyrsio.”

Dywedodd Jason Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, “Yn ei hamser gyda’r Bwrdd Iechyd, mae Tara wedi rhoi profiad y claf ar y blaen yn gyson ac yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bawb sydd angen gwasanaethau hepatoleg. O ystyried ei brwdfrydedd, ei huchelgais a’i hymroddiad i ofal nyrsio o ansawdd uchel, mae hi’n fodel rôl gwirioneddol i ni i gyd. Rwy’n falch iawn o’i gweld yn ennill y gwobrau hyn ac maent yn gwbl haeddiannol. Llongyfarchiadau mawr i Tara ac edrychaf ymlaen at weld ei gwaith yn y dyfodol yn y gwasanaethau afu.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o weld Tara yn derbyn y clod hwn ac yn gwerthfawrogi’r holl waith y mae’n ei wneud ar gyfer y tîm hepatoleg.

Hoffem hefyd ddathlu’r Fydwraig Arbenigol Dros Dro Cara Moruzzi am ennill y wobr Plant a Bydwreigiaeth, a Heather Fleming, Ymarferydd Cynorthwyol y Bledren a’r Coluddyn yn y Blynyddoedd Cynnar am y Wobr Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd. 

Longyfarch pawb a enwebwyd yng ngwobrau Nyrs y Flwyddyn eleni ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad bob un ohonoch at ddarparu gofal iechyd rhagorol i bawb.

Dilynwch ni