Neidio i'r prif gynnwy

Yfwch yn gyfrifol y penwythnos hwn a helpwch i leddfu'r pwysau ar ein gwasanaethau

22 Tachwedd 2025

Os ydych chi allan yn gwylio rygbi'r penwythnos hwn, #HelpwchNiHelpwchChi, arhoswch yn ddiogel ac yfwch yn gyfrifol.

Ar ddiwrnodau gemau rygbi, gwelwn gynnydd yn nifer y bobl sy’n dod i’r Uned Achosion Brys yn hwyr yn y nos a mae achosion o yfed lefelau uchel o alcohol gyda'r nos yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cyfrannu at drais a throsedd sy'n gysylltiedig ag alcohol, sy’n arwain at fwy o bobl yn mynd i’r Uned Achosion Brys.

Yfwch yn gyfrifol y penwythnos hwn a helpwch i leddfu'r pwysau ar ein gwasanaethau, er mwyn sicrhau y gall pobl gael y gofal iawn, pan fydd ei angen arnynt. 

I wneud hyn, gallwch: 

  • Ceisiwch newid eich diod arferol am rywbeth llai, er enghraifft, gwydraid llai o win neu botel o gwrw yn lle peint. 
  • Yfwch ddiod cryfder is gyda llai o unedau neu gynnwys alcohol is (ABV). 
  • Yfwch ddiod feddal neu wydraid o ddŵr bob yn ail â diodydd alcoholig 
  • Dim ond yfed alcohol gyda phryd o fwyd. 

Cofiwch y dylech fynd i’r Uned Achosion Brys os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd/anaf difrifol yn unig, a all gynnwys:

  • Anymwybyddiaeth
  • Anhawster anadlu
  • Amheuaeth o drawiad ar y gallon
  • Anaf difrifol neu golli gwaed yn drwm
  • Gwendid sydyn neu broblemau lleferydd

Byddwch yn ymwybodol o’ch terfynau, yfwch ddigon o ddŵr a helpwch ni i sicrhau bod ein huned achosion brys yn gallu delio â’r rhai sydd wirioneddol ei hangen y penwythnos hwn. 

Os ydych yn ansicr o’ch symptomau, neu pa gyngor meddygol sydd ei angen arnoch, gall gwefan GIG 111 Cymru helpu trwy gynnig cyngor, arweiniad, cyfeiriadur gwasanaethau a gwiriwr symptomau.

Os yw eich cyflwr yn un brys, ond nid yw’n bygwth bywyd, ffoniwch 111.

Drwy ffonio 111, gellir asesu eich cyflwr a rhoi cyngor ar y lle mwyaf priodol i chi gael y gofal iechyd sydd ei angen arnoch, gan nad yr Uned Achosion Brys yw’r ateb bob tro.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni