Mae’r rhan fwyaf o bobl yn treulio Dydd Nadolig gyda theulu a ffrindiau, yn agor anrhegion mewn siwmperi disglair ac yn gloddesta ar fwyd Nadoligaidd. Fodd bynnag, gall 25 Rhagfyr edrych yn wahanol iawn i staff gofal iechyd sydd ar ddyletswydd ac yn helpu’r rhai mewn angen.
Felly, tra eich bod chi’n barod i fwyta’ch twrci gyda’r holl drimins, cofiwch feddwl am yr unigolion hynny sy’n gofalu am y rhai mwyaf sâl, agored i niwed a’r rhai sydd wedi eu hanafu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Rydym wedi casglu detholiad bach o broffiliau cydweithwyr ymroddedig a fydd yn gweithio ar Ddydd Nadolig ac wedi gofyn iddynt sut y byddant yn gwneud y diwrnod yn fwy arbennig.
Mae Amelia yn gweithio fel nyrs gymunedol wedi’i lleoli yn Rhiwbeina. Ar Ddydd Nadolig eleni bydd hi’n darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion agored i niwed yn y gymuned.
“Lle bo’n briodol, rwy’n gwisgo fy mand gwallt Nadoligaidd,” meddai. “Rwyf hefyd yn gwneud siocledi poeth gyda hufen a malws melys i staff sy’n gweithio sifft y diwrnod hwnnw.”
Mae Amelia yn hoffi gweithio ar 25 Rhagfyr gan ei fod yn dod â chysur sydd ei ddirfawr angen i’r rhai sy’n unig.
Ychwanegodd: “Ni all rhai cleifion weld teulu na mynd allan am wahanol resymau, ac mae’r ffaith eu bod nhw’n gweld un wyneb hapus y diwrnod hwnnw yn helpu i godi eu calonnau.
“Nid yw Dydd Nadolig bob amser yn hawdd i bawb, felly mae gallu gwrando a sgwrsio am rywfaint yn helpu cleifion i wynebu’r dydd.”
Ar ôl ei sifft, bydd Amelia yn treulio amser gyda’i theulu, yn helpu i baratoi’r cinio Nadolig ac yn gwneud mins peis cartref.
Mae Aneta a Gemma yn ffisiotherapyddion pediatrig cylchdro sy’n gweithio ar draws safleoedd acíwt, ysgolion a lleoliadau cymunedol. Maent yn trin plant â phroblemau anadlol, niwrolegol, datblygiadol a chyhyrysgerbydol.
Ar Ddydd Nadolig eleni byddant yn gweithio ar y wardiau a’r uned gofal dwys pediatrig (PICU), gyda phlant sy’n sâl iawn i glirio’u llwybrau anadlol. Yn y bore, byddant hefyd yn cwmpasu trawma ac orthopedeg i blant sydd angen cymorth gyda symudedd ar ôl llawdriniaeth frys neu drawma.
Dywedodd Gemma: “Gall ffisiotherapi i blant fod yn heriol pan maen nhw’n sâl iawn, ond rydyn ni bob amser yn ceisio rhannu llawenydd a chwerthin. Mae’n bosibl y gwnawn ni hyd yn oed berfformio dawns a chân Nadoligaidd – mae wastad croeso i unrhyw staff sydd eisiau ymuno â ni.”
Mae’r ddwy yn mwynhau gweithio ar Ddydd Nadolig gan ei fod yn golygu y gall ein cydweithwyr eraill dreulio’r diwrnod arbennig gyda’u hanwyliaid. “Tra byddwn ni’n gweithio, gallwn ni fod yn wyneb cyfeillgar i’r plant adeg y Nadolig a chefnogi teuluoedd sy’n mynd trwy gyfnod anodd,” ychwanegodd Gemma. “Rydyn ni hefyd wrth ein bodd â’r addurniadau disglair!”
Ar ôl eu sifft, bydd Aneta a Gemma yn treulio eu hamser yn “bwyta’r holl mins peis ac yn bod yn llawen!”
Mae Visakha a June yn rhan o dîm bach sy’n gweithio yn yr Uned Trawma Arhosiad Byr (TSSU) yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae Vish yn nyrs gofrestredig sydd â rôl amrywiol, gan gynnwys derbyn a rhyddhau cleifion, gofal cyn ac ar ôl llawdriniaeth, rhoi gwrthfiotigau mewnwythiennol a gofal clwyfau. Mae June yn weithiwr cymorth gofal iechyd sy’n cefnogi gyda derbyn a rhyddhau cleifion, cwblhau arsylwadau, gofal personol a mynd â chleifion i’r theatr.
Dywedon nhw: “Gall y Nadolig deimlo’n wahanol iawn yn yr ysbyty. Mae llawer o gleifion yn colli eu teuluoedd a’u hanwyliaid, felly ein ffocws fydd darparu gofal cyson a gwneud i’r cleifion deimlo’n fwy cartrefol er mwyn iddynt gael arhosiad dymunol. Rydyn ni eisiau ceisio creu awyrgylch Nadoligaidd iddyn nhw.
“Byddwn yn gwneud ein gorau i ddod ag ychydig o ysbryd yr ŵyl i’r ward, gan roi amser ychwanegol i’r cleifion a siarad â nhw am eu profiadau o’r Nadolig yn y gorffennol. Rydym hefyd yn hoffi annog y cleifion i fwynhau addurniadau’r ward a byddwn yn dod â rhywfaint o hwyl y Nadolig trwy ganu caneuon neu chwarae cerddoriaeth Nadoligaidd.
“Does dim un claf eisiau bod yn yr ysbyty ar yr adeg hon o’r flwyddyn, felly rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n werth chweil ceisio rhoi’r Dydd Nadolig gorau posibl iddynt a gweld gwên ar eu hwynebau. Mae yna hefyd ymdeimlad unigryw o waith tîm ar ddiwrnodau arbennig fel hyn - mae pawb yn tynnu at ei gilydd ac, er bod yr awyrgylch yn wahanol, gellir gwneud y profiad yn fwy cadarnhaol.”
Dywed Visakha a June y byddan nhw’n “rhoi eu traed i fyny ac yn ymlacio” ar ôl eu sifft 12 awr. “Byddwn yn mynd adref, yn gwneud ein hunain yn gyfforddus ac yn mwynhau gweddill noson y Nadolig gyda’n hanwyliaid a’n teuluoedd. Dim byd ffansi, dim ond bwyd da a chyfle i ymlacio.”
Mae’r nyrsys Abbey a Sadie, ynghyd â’r gweithiwr cymorth gofal iechyd Julia, i gyd yn gweithio yn Uned Canser yr Arddegau, gan gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc trwy eu diagnosis o ganser, eu triniaeth a thu hwnt.
“Byddwn yn gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc sy’n derbyn gofal fel cleifion mewnol yn yr uned ar hyn o bryd, tra’n ceisio cynnal rhywfaint o ysbryd y Nadolig yn ystod cyfnod anodd i’n cleifion,” meddai Abbey.
“Rydyn ni’n chwarae gemau, yn gwylio ffilmiau, yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn canu. Rydym yn trefnu anrhegion a danteithion i bawb sydd ar y ward y diwrnod hwnnw. Mae gennym ni fwffe i rieni a gwarcheidwaid sy’n treulio Dydd Nadolig gyda ni. Rydym hefyd yn ceisio parchu dymuniadau cleifion sydd ddim yn teimlo’n Nadoligaidd ac a allai ei chael hi’n rhy anodd dathlu.”
Nid yw Abbey a Sadie erioed wedi gweithio ar Ddydd Nadolig o’r blaen. Ychwanegodd Abbey: “Mae Sadie yn ei blwyddyn gyntaf ar ôl cymhwyso, ac er fy mod i wedi cynnig gweithio ar Ddydd Nadolig yn fy rôl flaenorol, roeddwn i bob amser yn ffodus i beidio gorfod gwneud hynny. Mae Julia yn weithiwr cymorth gofal iechyd profiadol iawn sydd wedi gweithio ar sawl Ddydd Nadolig i’r Bwrdd Iechyd.
“Rydym yn bwriadu mynd adref ar ôl sifft hyfryd gyda chydweithwyr a chleifion annwyl iawn a dathlu’r hyn sydd ar ôl o’r diwrnod gyda theulu a ffrindiau. Does dim un ohonom yn gweithio ar Ŵyl San Steffan felly rydym yn mynd i fwynhau rhywfaint o ddathlu bryd hynny.”
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.