Mae’r rhan fwyaf o bobl yn treulio Dydd Nadolig gyda theulu a ffrindiau, yn agor anrhegion mewn siwmperi disglair ac yn gloddesta ar fwyd Nadoligaidd. Fodd bynnag, gall 25 Rhagfyr edrych yn wahanol iawn i staff gofal iechyd sydd ar ddyletswydd ac yn helpu’r rhai mewn angen.
Felly, tra eich bod chi’n barod i fwyta’ch twrci gyda’r holl drimins, cofiwch feddwl am yr unigolion hynny sy’n gofalu am y rhai mwyaf sâl, agored i niwed a’r rhai sydd wedi eu hanafu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Rydym wedi casglu detholiad bach o broffiliau cydweithwyr ymroddedig a fydd yn gweithio ar Ddydd Nadolig eleni, ac wedi gofyn iddynt sut y byddant yn gwneud y diwrnod yn fwy arbennig.
Danielle yw’r Dirprwy Arweinydd Tîm ar gyfer tîm Safe@Home y Fro, gwasanaeth osgoi ysbyty sy'n cefnogi cleifion i aros yn iach yn eu cartrefi eu hunain.
Gyda chymorth gan feddygon teulu, mae'r tîm yn helpu cleifion sy'n ddifrifol wael a'r rhai sy'n byw gyda mwy o fregusrwydd.
Ar 25 Rhagfyr, bydd Danielle a'i chydweithiwr Mandy Williams, Nyrs Glinigol Arbenigol, yn gwisgo eu siwmperi Nadolig ac yn ymweld â chleifion i ddod ag ychydig o hwyl Nadoligaidd i'r diwrnod.
"Dim ond ymdrech fach yw hi ond mae'n dod â llawer o lawenydd i'n cleifion," meddai. "Fydd llawer o'n cleifion ni ddim yn gweld neb adeg y Nadolig, felly bydd eu cefnogi nhw'n fraint. Ni ddylai neb fod ar ei ben ei hun ar gyfer y Nadolig."
Ar ôl ei shifft, bydd Danielle yn treulio gweddill y dydd gyda'i thri phlentyn, tra bod Mandy yn edrych ymlaen at wylio'r bennod olaf erioed o Gavin and Stacey gyda rhai danteithion Nadoligaidd.
Mae gan Deepa rôl ddeuol fel Nyrs Ymchwil Cardiothorasig a Nyrs ITU Cardiothorasig. Ddydd Nadolig eleni bydd hi'n gweithio yn yr adran ITU Cardiothorasig yn cefnogi cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth agored ar y galon.
"Yn anffodus, ni fydd cleifion a gafodd lawdriniaeth agored ar y galon yn gallu ymuno â'u teulu ar gyfer y Nadolig a bydd angen iddynt aros yn yr ysbyty," meddai.
"Yr ysbyty yw'r lle olaf mae unrhyw un eisiau bod, yn enwedig ar ddiwrnod sy'n bwysig iddyn nhw, fel Dydd Nadolig. Rwy'n credu'n gryf bod gweithio ar ddyddiau fel hyn yn fy atgoffa o ba mor arbennig yw bod yn nyrs. Byddaf yn ceisio creu naws Nadoligaidd yn yr uned."
Dywedodd Deepa ei bod wrth ei bodd yn gweithio ar Ddydd Nadolig. "Rwy'n credu yng Nghrist. Crist yw'r rheswm dros y tymor hwn. Hoffwn ddangos cariad a gofal tuag at fy nghleifion, gan gadw Iesu Grist fel fy model rôl," ychwanegodd.
Fodd bynnag, pan fydd hi'n cyrraedd adref o'i shifft, mae'n amser teuluol. "Rwyf eisoes wedi creu naws Nadoligaidd gartref gyda'n haddurniadau, goleuadau a choeden Nadolig. Byddaf yn treulio Noswyl Nadolig gyda fy nheulu, ac yna ar ôl gwaith, mae gweddill fy amser ar gyfer fy anwyliaid.
"Mi fydd y plant yn aros i fi cyn agor eu hanrhegion. Byddwn hefyd yn cael swper Nadolig gyda'n gilydd. Dyna sut rydw i'n cydbwyso fy ngwaith a'm teulu."
Mae Charlotte yn Nyrs Iechyd Meddwl ac yn gweithio fel rhan o Dîm Argyfwng Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).
"Ein rôl ni yw darparu cefnogaeth i bobl ifanc sy'n profi argyfwng iechyd meddwl," meddai. "Mae ein gwasanaeth wedi'i leoli'n bennaf yn Ysbyty Dewi Sant, er ein bod fel arfer yn gweithio yn nhai cleifion, mewn wardiau pediatreg neu iechyd meddwl ac yn enwedig yn yr uned achosion brys."
Eleni, mae Charlotte yn gweithio shifft Diwrnod Nadolig i adael i'w chydweithwyr fwynhau'r diwrnod gyda'u teuluoedd. "Maen nhw wedi fy helpu llawer yn ystod fy amser gyda'r tîm," ychwanegodd.
"Fel arfer, byddwch yn fy ngweld Ddydd Nadolig yn gwisgo clustdlysau neu siwmper ddoniol gyda phâr o crocs."
Yn dilyn ei shifft, bydd Charlotte yn mynd adref i wledda ar focs o Celebrations a gwylio rhaglenni teledu Nadoligaidd.
Mae pobl yn cyfeirio at y Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, Ian a Dawn, sy’n gweithio yn Uned yr Asgwrn Cefn A5N yn Ysbyty Athrofaol Cymru, fel "aelodau gwerthfawr o'u tîm" sydd bob amser yn mynd gam ymhellach dros y cleifion, gan gynnwys torri gwallt, eillio neu ddim ond stopio am sgwrs.
"Yn aml mae gan ein cleifion anafiadau sy'n newid eu bywydau, ac rydym yn ceisio eu helpu i ddiwallu eu hanghenion a rhoi gwên ar eu hwyneb ar yr un pryd," meddent.
Ddydd Nadolig, bydd y pâr yn gweithio shifft 12 awr gyda'u cydweithwyr i sicrhau bod cleifion yn cael diwrnod da.
"Rydyn ni'n gadael anrheg Nadolig arbennig i gleifion fel y gallan nhw ddeffro gyda rhywbeth i'w agor, gan wybod bod rhywun yn meddwl amdanyn nhw," ychwanegodd. "Rydyn ni'n hoffi dod â hwyl yr ŵyl i bawb ar y ward. Rydyn ni'n hoffi gwisgo i fyny, canu a sicrhau nad oes neb ar ei ben ei hun."
"Mae'r tîm bob amser yn cael diwrnod gwych gyda'i gilydd wrth geisio gwneud pethau yn well i'r rhai sydd yn yr ysbyty. Os yw'n gwneud arhosiad un claf yn yr ysbyty adeg y Nadolig ychydig yn haws, bydd yn werth chweil."
Bydd Ian a Dawn yn dathlu ar ôl gweithio gyda'u teulu a'u ffrindiau – ac yn mwynhau diod haeddiannol iawn.
Fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 3 yn Uned Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru, mae Donna yn arbenigo mewn mân anafiadau, dadebru, profion gwaed a gwneud ECGs. Mae hi hefyd yn gweithio yn y Ganolfan Triniaeth Alcohol ar benwythnosau ochr yn ochr â pharafeddygon, yr heddlu a staff meddygol EMP.
Ar Ddydd Nadolig, bydd hi'n gweithio yn yr uned achosion brys rhwng 7am a 7.30pm.
"Rydyn ni'n ceisio cadw agwedd bositif tuag at gleifion a chydweithwyr yn eu cyfnod o angen, yn dibynnu ar y sefyllfa," meddai. "Yn yr adran rydyn ni'n gweithio fel tîm ac yn cefnogi ein gilydd yn emosiynol cymaint ag y gallwn ni wrth geisio cyflawni rôl sy’n ein rhoi o dan lawer o bwysau. Weithiau gall cydweithwyr eu hunain fod yn mynd trwy gyfnod anodd, boed gartref neu yn y gwaith."
I gleifion, dywedodd Donna eu bod "wastad yn mynd gam yn ychwanegol.” Ychwanegodd: "Mae bod yn garedig i'n gilydd yn ein helpu i ymdopi â shifftiau heriol. Weithiau bydd cydweithwyr yn dod â chacennau cartref i mewn i ni eu mwynhau. Rydyn ni’n ceisio chwerthin a rhannu jôc yn dibynnu ar sut mae'r shifft yn mynd - weithiau mae dim ond gwrando yn ddigon."
Ar 25 Rhagfyr, dywedodd Donna y bydd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithiwr a gollodd ei dad 12 mis yn ôl. "Mae fy nghydweithiwr yn gorfod gweithio eleni a dyma fydd ei Nadolig cyntaf hebddo, felly bydd yn anodd. Gall y Nadolig fod yr amser anoddaf o'r flwyddyn i lawer o deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid, neu sydd â theulu yn yr ysbyty. Mae'n braf gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'r rhai sydd ar eu pennau eu hunain adeg y Nadolig, neu sy'n cael trafferth yn feddyliol."
Ar ôl ei shifft, bydd Donna yn mynd adref i gael gwydraid o 'bubbly' gyda'i phartner ac ymateb i negeseuon gan deulu a ffrindiau. Bydd hi'n dathlu'r Nadolig yn iawn ar 27 Rhagfyr ar ôl ei shifft Gŵyl San Steffan.
Mae Andy Eglinton yn Uwch Ffisiotherapydd sy'n gweithio fel un o'r Ymarferwyr Trawma Mawr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gan weithio gyda chleifion pediatrig ac oedolion.
"Mae gennym swyddfa ar goridor A4, ger yr Uned Polytrawma, ond rwy'n adolygu cleifion trawma mawr ar unrhyw ward o fewn yr ysbyty," meddai. "Byddai hyn yn bennaf yn cynnwys mynychu galwadau trawma yn yr uned Dadebru yn ogystal ag adolygu cleifion ar Wardiau Gofal Dwys, Trawma a Niwrolawfeddygol a Wardiau Llawfeddygol Cyffredinol.
"Rydym yn gweithredu fel gweithwyr allweddol ar gyfer pob claf trawma mawr o fewn y bwrdd iechyd, gan sicrhau bod cleifion yn derbyn adolygiadau gan wahanol arbenigeddau mewn modd amserol. Rydym hefyd yn chwarae rhan wrth gydlynu’r broses o ddychwelyd cleifion yn ôl i'w bwrdd iechyd lleol, gan ein bod yn gwasanaethu cleifion o bob rhan o Dde Cymru a De Powys fel y Ganolfan Trawma Mawr."
I Andy, mae Dydd Nadolig yn dibynnu'n bennaf ar ba fath o gleifion sy'n cael eu derbyn drwy'r Uned Achosion Brys. "Gobeithio y bydd gan unrhyw un sydd angen dychwelyd gynlluniau ar waith yn barod cyn Dydd Nadolig," ychwanegodd.
"Hoffwn feddwl y byddaf yn chwarae rhan fach wrth wneud i gleifion deimlo’n gartrefol, os ydynt yn gorfod cael eu derbyn i Ysbyty Athrofaol Cymru fel claf trawma mawr dros gyfnod y Nadolig. Byddaf yn gallu egluro iddyn nhw eu hanafiadau, cynlluniau rheoli, a chynlluniau rhyddhau posibl ac amserlenni iddyn nhw osod disgwyliadau realistig gyda'u teuluoedd."
Ychwanegodd Andy mai dyma fydd ei dro cyntaf yn gweithio ar Ddydd Nadolig yn ei rôl bresennol. "Rydw i wedi gweithio ar Ddydd Nadolig yn fy rolau blaenorol yn y gorffennol, ac mae gan bob aelod o staff agwedd llawen iawn, ac mae’n braf bod yn rhan o hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y cinio rhost Nadolig sy'n cael ei ddarparu yn dda!"
Yn dilyn ei shifft, bydd Andy yn mynd adref at ei wraig, ei blant a'i deulu estynedig i agor anrhegion, bwyta, yfed a "bod yn llawen".