Mae’r rhan fwyaf o bobl yn treulio Dydd Nadolig gyda theulu a ffrindiau, yn agor anrhegion mewn siwmperi hwyliog ac yn gloddesta ar fwyd Nadoligaidd. Fodd bynnag, gall 25 Rhagfyr edrych yn wahanol iawn i staff gofal iechyd sydd ar ddyletswydd ac yn helpu’r rhai mewn angen.
Felly, tra eich bod chi’n barod i fwyta’ch twrci gyda’r holl drimins ddydd Llun yma, cofiwch feddwl am yr unigolion hynny sy’n gofalu am y rhai mwyaf sâl, agored i niwed a’r rhai sydd wedi eu hanafu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Rydym wedi casglu detholiad bach o broffiliau cydweithwyr ymroddedig a fydd yn gweithio ar Ddydd Nadolig ac wedi gofyn iddynt sut y byddant yn gwneud y diwrnod yn fwy arbennig.
Mae Sian Kelly yn gweithio fel uwch-nyrs staff yn yr adran gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hi’n gyfrifol am gleifion ag anghenion gofal cymhleth a’r rhai sydd angen cymorth anadlu hirdymor.
Fel ‘arweinydd parth’, ei rôl hi yw sicrhau bod cleifion, perthnasau a chydweithwyr yn derbyn gofal a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.
“Gan fod cleifion ar yr uned yn gallu bod ag anafiadau sy’n newid eu bywydau, rwy’n ceisio eu helpu i gael yr ansawdd bywyd gorau posib,” meddai.
“Mae cleifion yn gallu gadael yr uned gyda’u teuluoedd neu aelod o staff i fynd i’r prif gyntedd neu i’r llyn i fwynhau gweld pobl ac ardaloedd gwahanol.”
Ar Ddydd Nadolig, bydd Sian yn gobeithio rhannu ychydig o ysbryd yr ŵyl trwy wisgo fel corrach wrth fynd â chleifion o amgylch safle Ysbyty Athrofaol Cymru. Bydd hi hefyd yn cynnal cwis Nadoligaidd, raffl ac yn annog pawb i gymryd rhan.
“Rwy’n gwisgo fel rhywun gwahanol bob blwyddyn,” ychwanegodd. “Mae’n hyfryd cael teuluoedd yn dod i mewn i dreulio amser gyda’r cleifion ar Ddydd Nadolig. Byddwn yn canu carolau ac yn chwarae gemau yn yr uned cymorth anadlu hirdymor, gyda phawb yn rhyngweithio o fewn eu cyfyngiadau. Mae fy nghydweithwyr yn help mawr wrth drefnu hyn i gyd hefyd.”
I goroni’r cyfan, mae Sian yn helpu i drefnu te prynhawn Nadoligaidd i staff ar 25 Rhagfyr, a fydd yn cynnwys ‘moctels’ arbennig.
“Byddaf yn dathlu’r Nadolig ar ôl fy sifft gyda fy ngŵr a’r cathod,” ychwanegodd. “Byddaf yn siarad gyda fy mhlant a’m hwyrion ar FaceTime, ac yna’n trefnu i’r teulu fod gyda’i gilydd ar Ŵyl San Steffan.”
Mae Emma Kelly yn weithiwr cymorth gofal iechyd yn Nhai Adsefydlu Park Road yn yr Eglwys Newydd. Ei gwaith hi yw cefnogi cleifion sy’n gwella o salwch meddwl, gyda llawer ohonynt wedi bod yn yr ysbyty ers misoedd neu fynyddoedd hyd yn oed.
“Rwy’n helpu gyda sgiliau byw bob dydd,” eglurodd. “Gallai hyn olygu eu helpu i ddefnyddio peiriant golchi neu drafnidiaeth gyhoeddus, hyd at helpu gyda’u siopa bob dydd.”
Eleni mae Emma’n gweithio sifft gynnar ar 25 Rhagfyr a bydd yn coginio cinio Nadolig gyda’i chydweithiwr, a gweithiwr cymorth gofal iechyd arall, Josie.
“Rydyn ni wedi gofyn i’r cleifion beth fydden nhw’n hoffi ei gael yn ystod y dydd, ac a oes ganddyn nhw unrhyw draddodiadau teuluol y gallen ni eu hail-greu yma yn Park Road,” ychwanegodd. “Byddwn yn darparu ar gyfer yr holl ofynion dietegol. Mae gennym lysieuwyr a feganiaid ar yr uned.”
Ar fore Nadolig, bydd pob claf yn derbyn anrheg sy’n addas i’w hanghenion neu eu chwaeth. Yna bydd pob claf yn eistedd i fwyta eu cinio gyda’i gilydd.
Ychwanegodd Emma: “Mae ychydig flynyddoedd wedi bod ers i mi weithio ar Ddydd Nadolig. Mae fy mhlant bellach wedi cyrraedd oedran lle maen nhw’n deall fy swydd a bod gweithio’r Nadolig yn rhan fawr ohono. Y cyfan maen nhw ei eisiau yw codi ychydig yn gynt fel y gallant agor eu hanrhegion cyn i mi adael i fynd i’r gwaith.
“Unwaith y bydd fy sifft wedi gorffen, byddaf yn mynd adref at y teulu lle byddwn yn cael cinio Nadolig gyda’n gilydd ac yn mwynhau gweddill y dathliadau.”
Mae Roe Kukiewicz yn nyrs iechyd meddwl gofrestredig yn Phoenix House, ward adsefydlu iechyd meddwl hirdymor.
“Mae’n edrych yn debycach i rannu tŷ yn hytrach na ward cleifion mewnol,” eglurodd. “Rydym yn gweithio gyda phobl sydd wedi cael diagnosis o heriau iechyd meddwl parhaus, a’n nod yw helpu pobl i fagu sgiliau ac, yn y pen draw, ddychwelyd i fyw’n annibynnol yn y gymuned.”
Dros gyfnod y Nadolig, mae Roe yn bwriadu mynd â’r preswylwyr allan ar daith gerdded aeafol o amgylch Parc Bute, gwneud celf a chrefft, a rhywfaint o bobi hyd yn oed.
“Roedd un o’r preswylwyr eisiau helpu i wneud cacen Nadolig,” ychwanegodd. “Rwy’n mynd i ddod â rhai gemau bwrdd i mewn o adref, a byddwn ni i gyd yn gwneud pryd o fwyd gyda’n gilydd ar Ddydd Nadolig.”
Dywedodd Roe ei bod hi’n bwysig gwneud y Nadolig yn arbennig i bawb.
“Bydd rhai o’n preswylwyr yn mynd adref, ond bydd eraill yn aros gyda ni. Mae hefyd gennym breswylwyr sydd ddim yn dathlu’r Nadolig,” meddai.
“Rydym yn cael rhywfaint o arian i roi rhodd fach i bob un o’n preswylwyr, a byddaf yn ceisio gwneud pob un yn bersonol iddynt. Rwy’n gwneud cyn lleied â phosibl o dasgau clinigol yn ystod cyfnod yr ŵyl ac yn ceisio treulio’r sifft gyda’r preswylwyr i lawr grisiau. Rwy’n ffrindiau da gyda fy nghydweithwyr ac rydym i gyd wedi enwebu ein hunain i weithio yn ystod y gwyliau.”
Ychwanegodd Roe ei bod hi’n hoffi gweithio ar Ddydd Nadolig gan ei fod bob amser yn sifft “hamddenol”. “Mae pawb mewn hwyliau da, ac rydyn ni’n gallu canolbwyntio ar dreulio amser gwerthfawr gyda’n preswylwyr a dod i’w hadnabod yn well.”
Bydd hi’n dathlu ei Dydd Nadolig ei hun ddiwrnod yn gynnar gyda’i phartner - ar Noswyl Nadolig - unwaith iddi gyrraedd adref o’i sifft gynnar.
“Rydyn ni’n ei alw’n ‘Wigilia’ answyddogol. Mae fy mhartner yn dod o Wlad Pwyl, ac mae Wigilia yn ddathliad traddodiadol yng Ngwlad Pwyl a gynhelir ar Noswyl Nadolig. Byddwn yn cyfnewid anrhegion ac rwy’n gobeithio y bydd y cinio yn barod erbyn i fi gyrraedd adref!”
Mae Nicola Tannetta yn nyrs staff band 6 sy’n gweithio yn yr adran niwrowyddoniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Ddydd Nadolig, bydd hi’n gweithio sifft 12 awr a hanner ar ward niwrolawdriniaeth B4 yn gofalu am ei chleifion ac yn eu trin ag urddas a pharch, fel bob amser.
“Byddaf yn sicrhau bod fy nghleifion yn gyfforddus ac yn hapus,” meddai. “Byddaf yn gwneud bwyd i’m cydweithwyr ar Ddydd Nadolig fel trît. Mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf o fy nghydweithwyr yn dod â bwyd.
“Rwy’n siŵr nad oes unrhyw un eisiau bod yn yr ysbyty dros y Nadolig, ond bydd ein cleifion yn derbyn anrheg gan Siôn Corn.”
Ar ôl i’w sifft ddod i ben ar 25 Rhagfyr, bydd Nicola yn mynd adref i gael noson dawel gyda’i gŵr, yn ogystal â chysylltu â’i mab, ei merch yng nghyfraith a’i hŵyr newydd-anedig, sy’n byw yng Nghanada, ar FaceTime.
Mae Jessica yn ddirprwy arweinydd tîm yn Nhîm Nyrsio Ardal Tredelerch. Mae hi’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o ddarparu gofal yn ddiogel i gleifion, yn ogystal â chefnogi’r arweinydd tîm a’i chydweithwyr i sicrhau bod y gofal a ddarperir o safon uchel.
“Rwy’n rhagweithiol wrth ymweld â chleifion ac adeiladu perthynas therapiwtig â nhw, eu teuluoedd a’u hanwyliaid i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl,” esboniodd.
Ddydd Nadolig eleni, bydd Jessica yn gweithio sifft hwyr, yn ymweld â chleifion sy’n gaeth i’w cartrefi i gynorthwyo gyda rhoi meddyginiaethau. Yn ddibynnol ar ei llwyth achosion, gallai fod yn cefnogi timau nyrsio ardal eraill yn yr ardal.
“Rwy’n bwriadu bod yn siriol a dymuno Nadolig Llawen iawn i bawb. Mae ychydig o bositifrwydd yn mynd yn bell – efallai fe wna i wisgo rhywfaint o dinsel yn fy ngwallt hyd yn oed,” meddai gan chwerthin.
“Rwy’n caru fy swydd ac rwy’n teimlo ei bod yn fraint gofalu am bobl a’u teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain. Rwyf hefyd eisiau bod yn aelod cefnogol o’r tîm, gan sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r Nadolig a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.”
Ar ôl ei sifft, mae’n bwriadu eistedd yn glyd gyda photel dŵr poeth, siocled poeth Bailey’s a gwylio Fawlty Towers gyda’i gŵr.
Ar hyn o bryd mae Tomos Kamal yn gweithio fel meddyg teulu dan hyfforddiant, yn cwblhau ei floc o hyfforddiant yn yr ysbyty. Mae wedi ei leoli yn uned iechyd meddwl oedolion Hafan y Coed yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
“Yn fy rôl i, rwy’n darparu gofal meddygol cynhwysfawr, cefnogaeth a thriniaeth i unigolion sy’n delio â heriau iechyd meddwl amrywiol,” meddai.
“Rwy’n chwarae rhan ganolog yng nghamau cychwynnol taith y cleifion hyn, yn ogystal â chynnig cefnogaeth barhaus. Mae cynnal asesiadau a darparu gofal i gleifion newydd yn fy ngalluogi i gyfrannu at eu cynlluniau triniaeth o’r cychwyn cyntaf.”
Mae cyfrifoldebau Tomos yn cwmpasu rhoi diagnosis, cynllunio triniaeth, a chydweithio gyda thîm amlddisgyblaethol i ofalu am les y cleifion sydd yn yr uned.
“Ar yr un pryd, mae fy ngwaith hefyd yn cynnwys cynnig cefnogaeth hanfodol i gleifion sydd eisoes ar y ward, gan sicrhau parhad eu gofal iechyd meddwl yn y lleoliad cleifion mewnol.”
Ar Ddydd Nadolig eleni, bydd Tomos yn darparu gofal a chymorth meddygol hanfodol i gleifion.
Ychwanegodd: "P’un a’n cynnal asesiadau ar gyfer achosion newydd neu’n cynnig cymorth parhaus i’r rhai ar y ward, rwy’n parhau i ganolbwyntio ar ofalu am les unigolion sy’n wynebu heriau iechyd meddwl.
“Mae cyfnod y Nadolig yn golygu ystyriaethau ychwanegol i gleifion sy’n delio â heriau iechyd meddwl. Mae meithrin amgylchedd cefnogol i gleifion yn ystod y cyfnod hwn mor bwysig.”
Pwysleisiodd fod gwneud Dydd Nadolig yn arbennig i gydweithwyr a chleifion yn Hafan y Coed yn “ymdrech tîm enfawr”, wedi’i arwain gan yr holl staff.
“Mae staff a chleifion yn addurno’r uned, yn meddwl am weithgareddau, a hyd yn oed yn trefnu danteithion Nadoligaidd arbennig,” meddai. “Mae annog staff i rannu negeseuon cadarnhaol yn helpu i greu ymdeimlad o gymuned, sy’n cyfrannu at amgylchedd cefnogol iawn.
“I’n cleifion, ein nod yw ymgorffori gweithgareddau therapiwtig a dymunol ar thema’r Nadolig, gan sicrhau bod cyfnod yr ŵyl yn brofiad cadarnhaol a chofiadwy i bawb yn yr uned iechyd meddwl.”
Mae gweithio adeg y Nadolig yn caniatáu i Tomos gael effaith ystyrlon ar les cleifion, yn enwedig yn ystod cyfnod sy’n gallu bod yn heriol i lawer.
“Mae’r cyfle i greu awyrgylch cefnogol, ynghyd â’r cyfeillgarwch ymhlith cydweithwyr, yn ychwanegu agwedd gwerth chweil i’m rôl. Mae gwybod y gallaf gyfrannu at wneud tymor y Nadolig yn fwy cadarnhaol i’r rhai sydd yn ein gofal yn dod ag ymdeimlad o foddhad a phwrpas i’m gwaith.”
Gan fod Tomos yn gweithio dros nos i mewn i fore’r Nadolig, bydd yn mwynhau ychydig oriau braf o gwsg, cyn gwneud unrhyw beth arall!
“Bydd hi’n braf ymlacio gyda’r teulu ar ôl hynny, yn enwedig gyda chinio Nadolig hwyr. Dyma’r ffordd berffaith o bontio o sifft brysur; trwy dreulio amser gyda fy anwyliaid ac ymlacio.”