Mae miloedd o blant ysgolion uwchradd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg ar fin derbyn eu brechiad ffliw chwistrell trwyn cyn iddynt orffen ysgol ar gyfer gwyliau'r Nadolig.
Bydd Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgolion Caerdydd a'r Fro yn ymweld ag ysgolion i roi'r brechlyn ffliw chwistrell trwyn i bob disgybl o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11, rhwng 22 Tachwedd a 19 Rhagfyr.
Dylai rhieni edrych am ragor o fanylion gan ysgol eu plentyn ynghylch dolenni i ffurflenni caniatâd electronig. Mae angen iddynt sicrhau bod y rhain yn cael eu cwblhau cyn y dyddiad cau. Bydd unrhyw blant y cyflwynir eu ffurflenni yn hwyr yn cael cynnig apwyntiad mewn clinig dal i fyny yn ddiweddarach.
Gall unrhyw un gael y ffliw ond mae gan blant y gyfradd uchaf o haint a gall y ffliw fod yn ddifrifol iddyn nhw. Gall cymhlethdodau gynnwys broncitis, niwmonia a heintiau clust. Mae rhai plant yn mynd mor sâl mae angen iddynt fynd i'r ysbyty.
Mae'r rhan fwyaf o blant yn cael y brechlyn fel chwistrell trwyn cyflym a diboen, sy'n hynod effeithiol wrth amddiffyn yn erbyn y feirws. Mae brechlynnau ffliw yn ddiogel iawn ac yn syml i'w rhoi i blant. Mae pryder o hyd y gallai plant na ddaethant ar draws y feirws ffliw rhwng 2020-2022, pan oedd llai o gymysgu cymdeithasol, fod yn arbennig o agored i niwed.
Bydd y Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgolion yn ymweld ag ysgolion uwchradd ar y dyddiadau canlynol:
22 Tachwedd
Ysgol yr Eglwys Gadeiriol
Ysgol Uwchradd Woodlands
Ysgol Uwchradd Cantonian
23 Tachwedd
Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd
Eastern High
24 Tachwedd
Ysgol Uwchradd Whitmore
Ysgol Uwchradd Mary Immaculate
27 Tachwedd
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Ysgol Howell’s
Bryn y Deryn
28 Tachwedd
Ysgol Llanilltud Fawr
Ysgol Gyfun y Bont-faen (diwrnod 1)
Bryn Sych Farm
29 Tachwedd
Ysgol Gyfun y Bont-faen (diwrnod 2)
30 Tachwedd
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Ysgol Red Rose
Ysgol Uwchradd Cathays
1 Rhagfyr
Ysgol Kings Monkton
Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christie
Ysgol Uwchradd Willows
4 Rhagfyr
Coleg St Johns Uwchradd
Ysgol Uwchradd St Illtyds
5 Rhagfyr
Ysgol Uwchradd St Cyres
6 Rhagfyr
Ysgol Uwchradd Stanwell
Rhagfyr 7
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (Ysgol Isaf)
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (diwrnod 1)
8 Rhagfyr
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (Ysgol Uchaf)
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (diwrnod 2)
11 Rhagfyr
Ysgol Uwchradd Llanisien (diwrnod 1)
Ysgol Uwchradd Caerdydd (diwrnod 1)
12 Rhagfyr
Ysgol Uwchradd St Teilos
13 Rhagfyr
Ysgol Uwchradd Pencoedtre
St Richard Gwyn
Derw Newydd
14 Rhagfyr
Ysgol Uwchradd Fitzalan
Esgob Llandaf
15 Rhagfyr
Ysgol Plasmawr
Ysgol Uwchradd Radyr
18 Rhagfyr
Ysgol Uwchradd Caerdydd
Ysgol Uwchradd Llanisien
19 Rhagfyr
Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
Yn y cyfamser, mae rhieni plant dwy a thair oed hefyd yn cael eu hannog i wneud apwyntiad gyda'u meddyg teulu i drefnu bod eu plant yn cael eu brechu rhag y ffliw. Gall plant ifanc ledaenu'r ffliw yn hawdd i aelodau mwy agored i niwed o'u teulu a'u cymuned.
Mae Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgolion Caerdydd a'r Fro eisoes wedi ymweld â phob ysgol gynradd yn y ddwy ardal awdurdod lleol. Er bod y brechlyn ffliw yn cael ei gynnig i bob plentyn ysgol, dim ond plant mewn grŵp risg clinigol sy'n cael eu gwahodd am frechlyn Covid-19.
Mae pobl a fydd yn gymwys i gael y brechiad rhag y ffliw yn cynnwys: