9 Rhagfyr 2024
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Rhaglen Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot Genedlaethol Cymru Gyfan ei bod wedi cyrraedd dros 500 o achosion llawfeddygol â chymorth robot gan ddefnyddio robot Versius. Cynhaliwyd y 500fed llawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru gan Jared Torkington, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Dywedodd Jared Torkington, Clinigydd Arweiniol ar gyfer y Rhaglen Llawfeddygaeth Drwy Gymorth Robot Genedlaethol: "Ar ôl bod yn rhan o'r rhaglen ers ei sefydlu, mae'n gyffrous cydnabod y garreg filltir arwyddocaol hon."
Dechreuodd Rhaglen Llawfeddygaeth Drwy Gymorth Robot Cymru Gyfan yn 2002. Mae'n bartneriaeth genedlaethol rhwng y cwmni roboteg o Gaergrawnt, CMR Surgical, GIG Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i wella canlyniadau llawfeddygol, ansawdd gofal a phrofiad cleifion.
Mae defnyddio Versius yn caniatáu i lawfeddygon gyflawni llawdriniaeth twll clo sy'n creu archoll mor fach â phosib, gan helpu cleifion i wella'n gyflymach, gyda llai o risgiau o haint.
Mae Rhaglen Llawfeddygaeth Drwy Gymorth Robot Genedlaethol Cymru Gyfan yn cynnwys llawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ogystal ag Ysbyty Gwynedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Trwy'r rhaglen, defnyddir Versius i gyflawni ystod o driniaethau llawfeddygol drwy gymorth robot sy’n cwmpasu llawdriniaeth y colon a’r rhefr, gynaecoleg a llawdriniaeth GI uchaf.
Mae 93 o staff sy'n cwmpasu 14 o dimau llawfeddygol ar draws y tri ysbyty wedi cael eu hyfforddi i gyflawni’r llawdriniaeth leiaf ymyrrol sydd o fudd i'r claf.
Diolch i hyblygrwydd y system, mae Versius yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ystod o driniaethau llawfeddygol rheolaidd a chymhleth, gan gynnwys hemicolectomïau, hysterectomïau a cholecystectomau. Roedd y 500fed achos a gwblhawyd o fewn y rhaglen yn echdoriad blaen, triniaeth a ddefnyddir yn gyffredin i drin canserau’r rectwm a chlefyd arall y coluddyn.
Dywedodd Jared Torkington: "O'r cychwyn cyntaf, mae'r rhaglen genedlaethol hon wedi croesawu'r arloesedd diweddaraf yn Versius i hybu gwell canlyniadau i gleifion gan ddod â thimau ac adnoddau llawfeddygol ynghyd. Rydym yn defnyddio'r rhaglen i dynnu sylw at bwysigrwydd sylwi ar symptomau yn gynnar a rhaglenni sgrinio presennol ar gyfer canser y coluddyn a chanserau eraill – gan newid agweddau ac ymddygiad y cyhoedd mewn ffordd gadarnhaol.
"Mae'n hyfryd myfyrio a gweld y cynnydd sydd wedi'i wneud, ac amrywiaeth y defnydd o systemau ar draws nifer o arbenigeddau llawfeddygol, fel y gall mwy o gleifion ledled Cymru fanteisio ar y dechnoleg flaengar hon."
Meddai Mark Slack, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Meddygol CMR Surgical "Mae CMR yn hynod falch o fod yn bartner i'r fenter nodedig hon ac yn edrych ymlaen at weld y cynnydd y mae'r rhaglen yn parhau i'w wneud i gleifion yng Nghymru trwy roi mynediad iddynt at ddulliau arloesi sy'n newid bywyd."
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: "Mae'n galonogol gweld y rhaglen yn cyrraedd y garreg filltir bwysig hon o 500 o achosion, gan ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni i'n cleifion pan fydd ysbytai'n partneru â diwydiant i weithredu mentrau arloesol fel Versius ar raddfa genedlaethol. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio ar draws GIG Cymru i hybu’r fenter drawsnewidiol hon."