Neidio i'r prif gynnwy

'Y peth gorau am fy rôl yw'r bobl' | Gwyliwch ail bennod Saving Lives in Cardiff ddydd Mercher

14 Ebrill 2025

Gwyliwch ail bennod Saving Lives in Cardiff ar BBC One Wales a BBC Two ddydd Mercher,16 Ebrill i gael cipolwg y tu ôl i'r llenni ar y gwaith anhygoel sy’n cael ei gyflawni yn y maes pediatreg, niwrolawdriniaeth a llawfeddygaeth y fron i newid bywydau pobl.  

Yn y bennod, bydd y llawfeddyg orthopedig pediatrig ymgynghorol Ms Clare Carpenter yn dychwelyd i'r rhaglen i drin Dafydd, naw oed, sydd wedi bod yn aros am lawdriniaeth i ail-greu ei gluniau sydd wedi dadleoli. Mae Dafydd yn defnyddio cadair olwyn ond oherwydd yr anesmwythder y mae'n ei achosi, ni all eistedd ynddi yn hir ac mae bellach yn treulio llawer o amser yn y gwely.

 
 
 
 
 
Dilynwch ni