12 Awst 2024
Mae’r bwyty yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi cyflwyno bar salad newydd i ddarparu opsiynau ar gyfer pryd o fwyd iachach – a mwy blasus – amser cinio i staff, cleifion ac ymwelwyr.
Mae Y Gegin, sydd wedi’i leoli ar y Llawr Daear Uchaf (ceir arwyddion clir o’r prif gyntedd), bellach yn cynnig saladau, dipiau ac ychwanegion ffres rhwng 11.30am a 1.30pm bob dydd o’r wythnos.
Mae’n rhan o ymgyrch i ddarparu mwy o amrywiaeth o ddewisiadau bwyd maethlon i gwsmeriaid, yn ogystal â’r orsaf grilio boblogaidd, cownteri bwyd poeth a thro-ffrio.
Yn ystod oriau brecwast, rhwng 7.30am ac 11am, mae’r bar salad yn cynnig dewis eang o ffrwythau ffres, grawnfwydydd ac iogwrt.
Dywedodd Andrew Pritchard, Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Arlwyo: “Ers iddo gael ei gyflwyno fel treial tua mis yn ôl, mae’r bar salad wedi bod yn boblogaidd iawn ac mae’r gwerthiant yn cynyddu o ddydd i ddydd.
“Mae galw yn bendant yno am ragor o ddewisiadau iach ac, fel ysbyty mwyaf Cymru, mae gennym ddyletswydd i’w darparu. Daw’r salad mewn bocs y gall pobl fynd ag ef gyda nhw, neu gallant eistedd yma i’w fwyta.
“Rwy’n meddwl bod Y Gegin yn dipyn o berl cudd. Mae ganddo naws fodern, groesawgar ac mae’n hafan ymhell o amgylchedd clinigol yr ysbyty.”
Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda’r timau gweithredol ac arlwyo i sicrhau bod 75% o’r holl fwyd a diod yn bodloni’r gofynion o ran cynnwys siwgr a braster.
Mae elw o’r bwyty yn cael ei ail-fuddsoddi yn y bwrdd iechyd ar gyfer gwasanaethau cleifion.
Oriau agor Y Gegin
Mae Aroma Express wedi’i leoli yn Y Gegin ac ar agor rhwng 7am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ble i ddod o hyd i Y Gegin
Bloc A
Llawr Daear Uchaf
Ysbyty Athrofaol Cymru
Caerdydd