Neidio i'r prif gynnwy

Y ffordd arloesol y mae'r Bwrdd Iechyd yn helpu i wella bywydau anifeiliaid ledled Cymru

Mae ceffylau, cŵn a hyd yn oed ieir ledled Cymru yn cael hwb i’w gofal, eu cysur a’u lles – diolch i’r ffordd arloesol y mae’r Bwrdd Iechyd yn cael gwared ar ei wastraff.

Ers mis Mai 2023, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi defnyddio gwasanaethau Elite Paper Solutions, menter gymdeithasol nid-er-elw wedi’i lleoli ym Merthyr Tudful.

Gan ddefnyddio tryciau mawr, mae’r elusen yn teithio i Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Brenhinol Caerdydd (CRI) i gasglu’r gwastraff cardbord cyn mynd ag ef yn ôl i’r warws, gan gael gwared ar amhureddau fel styffylau a thocsinau, ac yna ei rwygo.

Yna mae’r cardbord wedi’i rwygo’n cael ei bacio a’i werthu fel gwasarn anifeiliaid, sy’n gwbl fioddiraddadwy ac yn cynnwys llai o lwch sy’n galluogi anifeiliaid i anadlu’n haws. Mae’r gwasarn hefyd yn dda am amsugno dŵr sy’n lleihau drewdod, ac mae’r cardbord crimpiog yn dal yr aer cynnes a gynhyrchir gan yr anifail.

Yn ôl Elite, ers mis Mai eleni mae tua 22 tunnell o wastraff cardbord wedi’i gasglu o Ysbyty Athrofaol Cymru a CRI. Mae unrhyw beth nad yw’n cael ei ddefnyddio fel gwasarn yn cael ei ailgylchu, sy’n golygu nad oes dim yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

“Mae’n opsiwn iachach, ar gyfer yr anifail a’r perchennog, o’i gymharu â gwellt a naddion pren. Mae’n ticio llawer o focsys,” esboniodd Ian Thomas, Rheolwr Mentrau Grŵp yn Elite Paper Solutions.

“Mae nifer ein cwsmeriaid yn tyfu drwy’r amser ac erbyn hyn mae’n cynnwys perchnogion fferm, perchnogion stablau, ysgolion marchogaeth, ac rydym hefyd wedi rhoi rhywfaint o’r gwasarn i ganolfan achub merlod ym Merthyr gan ein bod eisiau cefnogi elusennau eraill.

“Rydym wedi cael perchnogion cŵn a moch cwta yn prynu’r gwasarn, ac rydym hefyd yn dosbarthu i fferm ddofednod yn Aberhonddu sy’n bridio ieir o’r radd flaenaf.

“Mae poblogrwydd y math hwn o wasarn yn cynyddu ymhlith perchnogion ceffylau rasio gan ei fod yn well i ysgyfaint yr anifeiliaid, ac maen nhw’n cael eu cadw dan do trwy gydol y flwyddyn sy’n golygu nad yw’r galw amdano yn gostwng yn ystod yr haf.”

Mae Elite Paper Solutions bellach yn gweithio gyda Heddlu De Cymru i ddarparu gwasarn ar gyfer ceffylau a chŵn sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.

Yn fwy na hynny, mae holl ethos y cwmni yn ymwneud â darparu cyfleoedd cyflogaeth a rhagolygon o gael gwaith i bobl ag anableddau ac sy’n wynebu anfanteision. Gan weithio fesul achos, mae Elite yn cynnig hyfforddiant ac yn arfogi unigolion â sgiliau gwaith, sgiliau bywyd a sgiliau cymdeithasol newydd tra’n cynorthwyo sefydliadau i leihau eu hôl troed carbon.

Ychwanegodd Ian: “Mae’n swydd sy’n rhoi boddhad mawr ac rwy’n cael gweld pobl yn gwella eu bywydau drwy’r cyfleoedd rydyn ni wedi helpu i’w creu.”

Mae Elite Paper Solutions eisoes wedi ennill sawl gwobr am ei fenter gwasarn anifeiliaid, gan gynnwys y Wobr Caffael Cynaliadwy yn y Go Awards am ei waith gyda BIP Caerdydd a’r Fro, a Gwobr GIG Cymru am y bartneriaeth â BIP Cwm Taf Morgannwg.

Dywedodd Calum Shaw, Rheolwr Gwella Cynaliadwyedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae’r fenter hon gan Elite yn helpu ein Bwrdd Iechyd drwy gefnogi dull economi gylchol, lleihau ein gwastraff a gostwng ein hallyriadau carbon.”

Dilynwch ni