Neidio i'r prif gynnwy

Y Farwnes Barker yn cynnal ymweliad arbennig â chlinig iechyd rhywiol CRI

Gwnaeth cyd-gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol (APPG) ar HIV/AIDS gynnal ymweliad arbennig â Chaerdydd i gwrdd â chlinigwyr ar reng flaen gofal iechyd rhywiol. 

Teithiodd y Farwnes Liz Barker, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, i Ysbyty Brenhinol Caerdydd (CRI) ddydd Gwener, 23 Mehefin i ddysgu mwy am waith arloesol cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a rhaglen Llwybr Carlam Caerdydd a’r Fro. 

Ar ôl cael taith o amgylch y clinig, siaradodd y Farwnes Barker ag aelodau'r tîm trin ac atal HIV/AIDS a dysgodd am rai o'r mentrau arloesol sy'n gwneud gwahaniaeth i gleifion yng Nghymru, gan gynnwys Tecstio ar gyfer Profi (T4T). 

Dechreuodd T4T fel peilot mewn un clwstwr o bractisau meddygon teulu yn ne Caerdydd ac roedd yn cynnwys anfon neges destun at bob claf sy'n oedolyn, gan eu hannog i ddarganfod mwy am brofion HIV a chynnig prawf am ddim iddynt ei wneud ym mhreifatrwydd eu cartrefi eu hunain. 

Canfuwyd ei fod yn effeithiol wrth gynyddu cyfraddau profi, yn enwedig ymhlith pobl a oedd mewn perygl adnabyddadwy o drosglwyddo HIV ond nad oeddent erioed wedi profi o'r blaen, neu ddim yn ddiweddar. 

Clywodd yr APPG hefyd am waith y cyfarwyddwr clinigol, Dr Rachel Drayton, sydd wedi bod yn allweddol wrth leihau ôl troed carbon y bwrdd iechyd trwy fentrau newydd llwyddiannus.  

Mae un cynllun arloesol y gwnaeth hi helpu i'w weithredu yn ymwneud â chleifion yn cael y dewis o gael eu profion gwaed monitro HIV rheolaidd ddwywaith y flwyddyn yn eu meddygfa leol, yn hytrach nag yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, i leihau teithio diangen a grymuso cleifion ar yr un pryd. 

Yn dilyn y sgyrsiau clinigol rhwng y Farwnes Barker, meddygon ymgynghorol HIV a chyfarwyddwr gweithredol iechyd y cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Fiona Kinghorn, teithiodd y grŵp o CRI i swyddfeydd Pride Cymru ar gyfer digwyddiad bwrdd crwn a oedd yn cynnwys rhai o'r bobl fwyaf dylanwadol yn y maes trin ac atal HIV.  

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol roedd Ysgrifennydd Llwybr Carlam Caerdydd a'r Fro, Lisa Power, cadeirydd Pride Cymru, Gianpiero Molinu, ac is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon, Dr Olwen Williams. 

 

Dilynwch ni