Ymunodd y digrifwr Adam Kay â chleifion a staff i ddathlu Gwasanaeth Canser Niwroendocrin De Cymru, sydd wedi ennill sawl gwobr, a chefnogi'r Gronfa Canser Niwroendocrin.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty’r Vale yn Hensol ar 13 Hydref 2022, a bu aelodau o Wasanaeth Canser Niwroendocrin De Cymru a'i gleifion yn rhannu eu profiadau o'r gwasanaeth a'i drawsnewidiad dros y pum mlynedd diwethaf.
Gwnaeth Adam Kay, awdur, digrifwr a chyn-feddyg, gymryd ran yn y digwyddiad yn ei rôl fel llysgennad Cronfa Canser Niwroendocrin De Cymru Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Wedi’i gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae Gwasanaeth Tiwmor Niwroendocrin (NET) De Cymru yn darparu gofal o'r radd flaenaf i bobl sy'n cael diagnosis o ganser niwroendocrin yn ne Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chanolfan Ganser Felindre.
Mae canserau niwroendocrin (NET) yn ganserau anghyffredin ond sy’n dod yn fwyfwy cyffredin, ac maent yn deillio o wahanol organau'r corff.
Mae cleifion yn derbyn gofal arbenigol gan dîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys nyrsys clinigol arbenigol, patholegwyr, gastroenterolegwyr, radiolegwyr, deietegwyr, oncolegwyr, endocrinolegwyr, llawfeddygon cyffredinol ac arbenigol, a chardiolegwyr, o dan arweiniad y Gastroenterolegydd Ymgynghorol Dr Mohid Khan.
Dywedodd Dr Mohid Khan: “Mae'n bleser pur cael gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol anhygoel ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chanolfan Ganser Felindre, gan sefydlu perthynas waith gyda chlinigwyr o bob Bwrdd Iechyd a chomisiynwyr.
“Er ei bod wedi bod yn daith o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, mae newid y model gwasanaeth mewn ffordd arloesol a chynnwys cleifion yn y trawsnewid wedi arwain at dystiolaeth galed o ganlyniadau clinigol gwell a chanlyniadau a phrofiad gwell i gleifion am y tro cyntaf yn y canser hwn.
“Er bod rhagor o waith o'n blaenau i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy o ran y gwelliannau eraill sydd ar y gweill, mae'n wylaidd gweld cleifion yn rhoi adborth mor gadarnhaol wrth fyw gyda'r canser hwn.”
Mae'r gofal a ddarperir yn cynnwys asesiad diagnostig manwl gywir, rheoli symptomau holistaidd gan gynnwys maeth, monitro rhagweithiol, sganiau gwyliadwriaeth, adolygiadau clinigol ac amrywiaeth o therapïau neu lawdriniaeth.
Dywedodd Natasha Richards, claf yng Ngwasanaeth Canser Niwroendocrin De Cymru: “Mae fy mhrofiad o Wasanaeth NET De Cymru yn un cadarnhaol iawn. Dydw i erioed wedi gorfod aros am unrhyw beth, rwy'n teimlo bod popeth wedi cael ei ymchwilio'n drylwyr ac rwy'n derbyn gofal da. Mae Dr Khan a'r tîm yn hygyrch, yn hawdd mynd atynt ac yn gyfeillgar.”
Ar ôl ei drawsnewid yn 2017, mae'r gwasanaeth wedi nodi carreg filltir arwyddocaol wrth ennill statws Canolfan Ragoriaeth Cymdeithas Tiwmor Niwroendocrin Ewrop (ENETS).
Mae hefyd wedi ennill gwobr Rhwydwaith Profiad y Claf y DU, wedi cael ei gydnabod gan Rwydwaith Canser Prin Ewrop (EURACAN) fel canolfan arbenigol, ac wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Tîm Canser y British Medical Journal.
Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yr Athro Meriel Jenney: “Dylai Mohid a'r Tîm sy'n darparu Gwasanaeth Canser Niwroendocrin ehangach De Cymru fod yn hynod falch o'u llwyddiant rhagorol wrth sicrhau statws Canolfan Ragoriaeth Cymdeithas Tiwmorau Niwroendocrin Ewrop.
Bydd y Gronfa Canser Niwroendocrin yn parhau i gefnogi'r gwasanaeth i weithredu prosiectau a gweithgareddau ymchwil arloesol i wella gofal i gleifion wrth ddatblygu gwell dealltwriaeth o ganser.
Os hoffech gyfrannu at Gronfa Canser Niwroendocrin De Cymru a chefnogi ei gwaith ewch i www.healthcharity.wales/neuroendocrine-canser-fund.