Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd yn addo gostwng nwyon tŷ gwydr niweidiol mewn cynllun gweithredu newydd

Oeddech chi'n gwybod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynhyrchu amcangyfrif o 202,000 tunnell o nwyon tŷ gwydr niweidiol bob blwyddyn - yr un faint â holl aelwydydd y Barri gyda'i gilydd?  

Mewn gwirionedd, pe bai'r sector iechyd byd-eang cyfan yn wlad, hi fyddai'r pumed allyrrydd mwyaf o garbon (CO2e). Y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddefnyddir i ddarparu gofal iechyd yw'r cyfranwyr mwyaf o bell ffordd, sy'n cyfrif am oddeutu 81% o'r allyriadau cyffredinol o fewn y bwrdd iechyd.  

Yn anffodus, rydym eisoes yn gweld effaith yr argyfwng hinsawdd yma yn ne Cymru, gyda chyfnodau llawer gwlypach o dywydd yn arwain at lifogydd ofnadwy a thymheredd yr haf yn cyrraedd 37 gradd. Heb weithredu, bydd tymereddau byd-eang uwch a thywydd eithafol yn arwain at ddirywiad yn argaeledd bwyd, salwch a marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres, a difrod i'n seilwaith hanfodol.  

Er bod mynd i'r afael â'r hinsawdd yn broblem fyd-eang y mae angen i bob gwlad, sefydliad ac unigolyn weithredu arni, fel un o'r sefydliadau sector cyhoeddus mwyaf yn y DU mae'n bwysig bod y GIG yn gwneud ei ran ac yn arwain. Mae gwaith helaeth yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni i leihau allyriadau carbon Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac ym mis Mawrth cafodd ei drydydd cynllun gweithredu datgarboneiddio - un o ofynion pob bwrdd iechyd yng Nghymru - ei gymeradwyo.  

Gan ddysgu o wersi’r blynyddoedd diwethaf, fe'i datblygwyd i herio'r ffordd y mae'r sefydliad yn gweithio, gan ddechrau o'r brig. Mae'n cydnabod bod angen gwneud mwy i sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud gan roi ystyriaeth i leihau allyriadau neu osgoi allyriadau.  

Mae'r adroddiad yn nodi bod angen i'r gweithlu gael ei addysgu'n well o ran sut i leihau eu hôl troed carbon a gweithredu yn y ffyrdd lleiaf gwastraffus. Mae hefyd yn mynd i'r afael â'r ffaith bod angen mwy o fuddsoddiad i gefnogi mynediad i gerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus i'n safleoedd, a gwneud ein hadeiladau'n fwy effeithlon o ran yr amgylchedd.   

Ond y newyddion da yw y bydd y camau a gymerwn nawr hefyd yn arwain at fanteision ehangach, gan gynnwys aer glanach, poblogaeth sy'n fwy egnïol yn gorfforol a lles meddyliol gwell.  

Mae'n deg dweud nad yw'r bwrdd iechyd wedi sefyll yn ei unfan ar y mater hwn. Cyflawnwyd llawer dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i leihau ein hallyriadau carbon. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:  

  • Gwnaeth yr adran ystadau greu tua 300,000kwh o ynni adnewyddadwy, sy'n ddigon i bweru tŷ am ganrif;  

  • Amcangyfrifir bod 960,000 milltir o deithio i gleifion wedi'i arbed trwy gyflwyno ymgynghoriadau o bell ers 2020;  

  • Anfon dim gwastraff i safleoedd tirlenwi;  

  • Diffodd bron pob un o'r maniffoldiau ocsid nitrus yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau, gan arbed mwy na 500 tunnell o CO2e;  

  • Gweithredu'r ymrwymiadau yn Siarter Teithio Iach Caerdydd i gefnogi teithio cynaliadwy i'n safleoedd, gan gynnwys agor canolfan feicio newydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru;  

  • Amryw brosiectau bach, ond effeithiol i arbed carbon gan gydweithwyr angerddol yn yr adrannau dermatoleg, iechyd rhywiol ac eraill.  

“Mae angen i ni fynd llawer pellach ac yn gyflymach i gymryd y camau sydd eu hangen i leihau ein hallyriadau,” meddai cadeirydd y bwrdd iechyd Charles Janczewski a'r prif weithredwr Suzanne Rankin mewn datganiad ar y cyd yn y cynllun gweithredu datgarboneiddio.  

“Mae'r cynllun hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r sefydliad i wella dibyniaeth ei seilwaith ar danwydd ffosil, yn ogystal â cheisio effeithlonrwydd yn y ffordd y caiff cynhyrchion eu defnyddio gan liniaru ein heffaith ar yr amgylchedd.  

“Mae newid yn yr hinsawdd yn risg sylweddol i'r bwrdd iechyd ac i iechyd y poblogaethau rydym yn eu cefnogi, yn enwedig y rhai sydd eisoes ar y cyrion. Os na chyflawnir camau lleihau ar draws y gymdeithas, byddwn yn gweld mwy o alw ar ein gwasanaethau o ganlyniad i dywydd eithafol, digwyddiadau parhad busnes anffafriol mwy rheolaidd a mwy o lygredd aer, gydag effeithiau ar iechyd anadlol yn benodol.”  

Fe wnaethant ychwanegu: “Rydym yn gwybod nad yw hon yn her y gall dim ond ychydig o gydweithwyr fynd i'r afael â hi, mae angen i bawb chwarae eu rhan a dyna pam ein bod yn sicrhau bod y cynllun hwn yn eiddo i'r bwrdd iechyd cyfan. Byddwn yn gosod yr esiampl fel Bwrdd ac yn rhoi'r adnoddau, y lle a’r wybodaeth i'n cydweithwyr wneud gwahaniaeth.”  

Mae hefyd yn bwysig bod GIG Cymru yn gwario ei arian, lle y gall, ar gefnogi swyddi a chymunedau lleol - a elwir hefyd yn 'economi sylfaenol'. Mae ein cydweithwyr caffael yn gwario tua thraean o'u holl wariant gyda chyflenwyr yng Nghymru, bron i £1bn rhwng Ebrill 2022 ac Ionawr 2023.  

Gall gweithwyr y bwrdd iechyd gefnogi'r ymgyrch i newid i amgylchedd carbon isel mwy cynaliadwy drwy wneud pethau bach, megis:  

  • Diffodd goleuadau ac offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio;  

  • Cynyddu'r defnydd o deithio cyhoeddus neu deithio llesol;  

  • Ailgylchu lle bynnag y bo'n bosibl;  

  • Lleihau faint o eitemau untro sy'n cael eu defnyddio a'u taflu;  

  • Defnyddio technoleg lle bo hynny'n ymarferol i leihau teithio i gleifion.  

I ddarllen y cynllun gweithredu yn llawn ewch i.

Dilynwch ni