18 Gorffennaf 2022
Am y tro cyntaf yng Nghymru, rhoddodd Anne-Marie Leaman enedigaeth i Hudson yn ddiweddar gan ddefnyddio technoleg nwy ac aer newydd sy’n ystyriol o’r hinsawdd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro yn ymrwymedig i ymgorffori cynaliadwyedd mewn systemau gofal iechyd, ac mae defnyddio’r dechnoleg werdd newydd yn garreg filltir arwyddocaol wrth leihau allyriadau ocsid nitrus.
Defnyddir ocsid nitrus yn gyffredin mewn gofal iechyd ar gyfer anaestheteg ond er ei fod yn rhan hanfodol o ddarparu gofal iechyd, fe’i hystyrir yn nwy tŷ gwydr niweidiol. Mae astudiaethau’n dangos bod gan ocsid nitrus fwy na 265 gwaith y potensial cynhesu bydeang na charbon deuocsid (CO2).
Mae Entonox, a elwir yn gyffredin yn nwy ac aer, yn gyfuniad o ocsid nitrus ac ocsigen. Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, mae’r defnydd o Entonox yn cyfateb i allyrru 4495 tunnell o CO2 y flwyddyn, yr un peth â gyrru 930 gwaith o amgylch y byd mewn car petrol. Mae Unedau Lleihau Carbon Entonox sydd wedi’u datblygu yn Sweden yn gallu casglu ocsid nitrus sy’n cael ei anadlu allan a’i ‘gracio’ yn nitrogen ac ocsigen sy’n cael eu hystyried yn ddiniwed.
Dywedodd Anne-Marie Leaman: “Mae’n bwysig gwneud yr hyn a allwn gyda’n gilydd i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu newid o system nwy ac aer draddodiadol i ddewis amgen gwyrddach a chwarae fy rhan.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n rhoi genedigaeth sydd angen nwy ac aer i ddewis y system newydd hon os yw ar gael. Mae’n wych gweld BIP Caerdydd a’r Fro yn cymryd camau i ddod yn fwy cynaliadwy.
“Diolch i’r holl dîm a’m cefnogodd drwy gydol fy meichiogrwydd a’r enedigaeth, gan groesawu babi Hudson i’r byd.”
Mae BIP Caerdydd a’r Fro wedi gweithio’n agos gyda chleifion a staff ar weithredu’r Unedau Lleihau Carbon Entonox. Mae cleifion a staff wedi dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad mawr tuag at leihau effeithiau amgylcheddol a chroesawu dulliau gofal newydd.
Mae prosiect Entonox yn rhan o weithgarwch ehangach i leihau’r defnydd o ocsid nitrus ar draws safleoedd Byrddau Iechyd. Ar hyn o bryd mae pedwar maniffold ocsid nitrus ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd, sef y dull storio nodweddiadol. Mae canfyddiadau gan dîm prosiect amlddisgyblaethol BIP Caerdydd a’r Fro wedi nodi y gall gwastraff o’r math hwn o system fod yn uchel oherwydd gollyngiadau a cholli nwy o’r cyflenwad. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi treialu silindrau ocsid nitrus cludadwy yn Ysbyty Plant Cymru fel rhan o gynllun peilot unigol sydd wedi cynyddu effeithlonrwydd yn sylweddol, o 2.5% i 74%.
Yn dilyn y peilot llwyddiannus, gwnaeth y tîm gyflwyno’r astudiaeth beilot ar draws y sefydliad drwy’r Academi Lledaeniad a Graddfa gyda’r uchelgais i rannu mewnwelediadau ac annog newid ledled Cymru. Hyd yma, mae safle Ysbyty Athrofaol Llandochau’r Bwrdd Iechyd wedi datgomisiynu ei faniffold ocsid nitrus yn llawn ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatgomisiynu’r prif faniffold yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Dangosodd yr Adroddiad Healthcare Without Harm fod 5.6% o allyriadau yn y DU yn dod o leoliadau gofal iechyd ac mae cynllun Datgarboneiddio GIG Cymru yn rhoi sylw i leihau nwyon anesthetig. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi rhagweld arbedion o 1.15 miliwn litr o ocsid nitrus neu 679 tunnell o CO2e bob blwyddyn a fydd yn chwarae rhan enfawr mewn gwneud gofal iechyd yn fwy cynaliadwy yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg a thu hwnt.
Dywedodd Charlotte Oliver, Anesthetydd Ymgynghorol ac un o Arweinwyr Clinigol y prosiect ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rwy’n falch iawn o’r gwaith caled y mae’r tîm wedi’i wneud er mwyn i ni gyrraedd y man hwn, gan herio normau gofal sydd wedi bodoli ers degawdau a chaniatáu i ni gryfhau ein hymrwymiad i leihau ein heffaith amgylcheddol. Rydym yn cydnabod bod gennym lawer i’w wneud eto yn ein rhaglen Llunio ein Gofal Iechyd Cynaliadwy i’r Dyfodol ond rydym wrth ein bodd gyda’r cynnydd yr ydym yn ei wneud a’r brwdfrydedd i addasu gan ein cydweithwyr a’n cleifion.”