Mae hysterectomi yn tynnu’r groth ac mae hyn fel arfer yn cynnwys ceg y groth. Gelwir hyn yn ‘hysterectomi llawn’.
Weithiau bydd ceg y groth yn cael ei gadael yn ei lle – gelwir hyn yn hysterectomi rhannol.
Os ydych wedi cael hysterectomi rhannol, dylech barhau i gael profion sgrinio serfigol yn ôl yr arfer hyd at 65 oed. Bydd eich meddyg yn gallu dweud wrthych pa fath o hysterectomi a gawsoch.
Ar ôl hysterectomi llawn, ni fyddai angen unrhyw brofion sgrinio pellach arnoch fel arfer. Weithiau, argymhellir prawf sgrinio pellach. Bydd eich gynaecolegydd yn dweud wrthych os oes angen hyn arnoch.