Yn ystod ein bywydau, bydd 80% ohonom yn cael rhyw fath o HPV ond ni fydd y rhan fwyaf ohonom byth yn gwybod ein bod wedi ei gael. Mae tua 90% o heintiau HPV yn clirio o fewn 2 flynedd.
Fel arfer mae HPV yn cael ei glirio gan y corff ei hun heb driniaeth. Ar gyfer nifer fach o unigolion, ni fydd eu corff yn gallu cael gwared ar HPV. Pan fydd gan bobl haint HPV am gyfnod hir, gall hyn achosi newidiadau yng nghelloedd ceg y groth.
Mae fel arfer yn cymryd nifer o flynyddoedd i ganser ceg y groth ddatblygu o unrhyw newidiadau celloedd a allai ddigwydd yng ngheg y groth. Gall sgrinio bob pum mlynedd ganfod y newidiadau hyn cyn iddynt droi’n ganser.