Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd yn ystod prawf sgrinio serfigol?

Bydd yr unigolyn sy’n cymryd y sampl yn cael sgwrs â chi cyn cynnal y prawf er mwyn:

  • Gwirio’ch manylion
  • Siarad â chi am yr hyn y mae’r prawf yn ei gynnwys
  • Holi am unrhyw broblemau sydd gennych neu feddyginiaethau rydych yn eu cymryd

Mae’n ddefnyddiol gwybod dyddiad eich mislif diwethaf, os ydych yn dal i’w cael. Ni allwch gael prawf yn ystod eich mislif, felly sicrhewch eich bod yn trefnu apwyntiad cyn neu ar ôl eich mislif.

Mae’n arferol teimlo embaras yn enwedig os mai dyma eich prawf cyntaf. Rhowch wybod i’r sawl sy’n cymryd eich sampl os ydych yn poeni neu’n teimlo’n bryderus ynghylch cael y prawf.

Bydd angen i chi dynnu eich dillad isaf. Bydd angen i chi ddringo ar wely a gorwedd ar eich cefn, gyda’ch pengliniau wedi’u plygu a’ch traed ar y gwely. Mae gan rai clinigau welyau arbennig, sy’n cynnal eich coesau.

Os oes gennych unrhyw anableddau neu gyflyrau corfforol sy’n golygu y byddai’n anodd i chi fod yn yr ystum hwn, neu’n anodd mynd ar y gwely, trafodwch hyn pan fyddwch yn trefnu’r apwyntiad.

Yna bydd y person sy’n cynnal eich prawf yn gosod sbecwlwm i mewn i’ch gwain yn ofalus. Pan fydd y tu mewn, gellir agor y sbecwlwm gan bwyll er mwyn gallu gweld ceg y groth.

Ceg y groth yw rhan isaf eich croth. Weithiau fe’i gelwir yn ‘gwddf y groth’. Mae ceg y groth yn cysylltu â phen uchaf eich gwain.

Mae angen i’r person sy’n cynnal y prawf weld ceg y groth cyn y gall gymryd y sampl. Pan fydd wedi gweld ceg y groth, bydd wedyn yn ysgubo brwsh neilon meddal drosti i gymryd sampl o gelloedd. Bydd pob un sy’n cymryd sampl yn cymryd y sampl hon yn yr un ffordd.

Mae rhai unigolion nad ydynt yn teimlo’r sampl yn cael ei gymryd, ond gall eraill deimlo bod hyn yn anghyfforddus. Nid yw’n anarferol cael ychydig bach o waedu wedyn.

Ar ôl i’r sampl gael ei rhoi mewn pot o hylif, mae’r sbecwlwm yn cael ei dynnu gan bwyll. Yna anfonir y sampl i’r labordy.

Os ydych am gael rhywun yn gwmni i chi pan fyddwch yn cael y prawf, gwiriwch hyn pan fyddwch yn trefnu eich apwyntiad neu gofynnwch i’r sawl sy’n cymryd y sampl ar ddechrau eich apwyntiad.

Dilynwch ni