Eich dewis chi yw cael sgrinio serfigol. Mae gan Sgrinio Serfigol Cymru ddyletswydd i wahodd pob unigolyn cymwys i gael ei sgrinio.
Os na fyddwch yn dod i gael prawf sgrinio o fewn chwe mis i’ch llythyr gwahoddiad, anfonir llythyr atgoffa atoch.
Os nad ydych yn dod i gael prawf ar ôl eich llythyr atgoffa, ni fyddwch yn cael llythyr am dair blynedd neu bum mlynedd, yn dibynnu ar eich oedran. Gallwch fynd i gael eich sgrinio ar unrhyw adeg ar ôl i chi gael gwahoddiad.